Sunday, December 30, 2012

GWASANAETH NADOLIG Y TEULU

"Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol,
Duw cadarn,
Tad bythol, Tywysog heddychlon".
Eseia 9:6
Ar brynhawn Dydd Sul Rhagfyr 23 cynhaliwyd oedfa deuluol Y Nadolig. Unwaith eto adroddwyd ddrama Y Nadolig gyda plant yr Ysgol Sul, Ieuenctid y Capel, a Rhieni yn cymryd rhan.
Dechreuwyd yr oedfa gan gorau'r Capel yn canu emynau dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio.
Wedyn cawsom ein tywys i Fethlehem gan blant yr Ysgol Sul.

Drama draddodiadol oedd gennym gyda'r plant lleiaf yn actio rhannau'r Angylion a'r bugeiliad. Macy oedd yr angel Gabriel, Catrin yn cymryd rhan Mair a Luke rhan Joseff.
Roedd ieuenctid yr Ysgol Sul a rhieni'r plant yn darllen, gweddio a cyflwyno'r carolau.
 
Mrs Bethan Thomas oedd yn bennaf gyfrifol am y gwasanaeth gyda chefnogaeth athrawon yr Ysgol Sul sef Mrs Catrin Thomas ac Mr Edwyn Williams.





No comments: