Monday, July 19, 2010

MABOLGAMPAU YSGOLION SUL


Fel yr adroddwyd yn y neges diwethaf cynhaliwyd  rowndiau terfynol Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf. GwnAeth tim oedran ysgol uwchradd Gellimanwydd cystal a'r tim cynradd a llwyddwyd pawb i ennill medal.
 Unwaith eto - LLONGYFARCHIADAU I BAWB.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) wedi bod yn brysur yn trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin. Daeth gwaith y tymor i derfyn gyda rowndiau terfynol mabolgampau dan do yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Roedd y noson hon yn dilyn rowndiau rhagbrofol a gynhaliwyd yng nghanolfannau hamdden Castell Newydd Emlyn a Rhydaman.



Daeth tyrfa enfawr ynghyd i gefnogi’r achlysur ac roedd y ganolfan hamdden yng Nghaerfyrddin yn llawn i’r ymylon. Bu’r noson yn un llawn bwrlwm a chyffro wrth i blant ac ieuenctid, yn cynrychioli 23 o eglwysi, gymryd rhan yn y rowndiau terfynol.

MABOLGAMPAU YSGOLION SUL

Nos Lun 19 Gorffennaf cynhaliwyd rowndiau terfynol y Sir  o fabolgampau Dan Do ysgolion Sul / clybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin. Daeth tyrfa gref i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin i gefnogi'r plant a cawsom noson yn llawn bwrlwm a hwyl.
Roedd y cystadleuthau yn cynnwys rhedeg, trac, tynnu rhaff a rasus cyfnewid ar gyfer pob oed.  Dechreuwyd gyda'r oedran ysgol gynradd. 
Gwnaeth pob un o blant Gellimanwydd yn arbennig o dda a llwyddwyd i ennill sawl medal.
LLONGYFARCHIADAU I CHI GYD.

Thursday, July 08, 2010

Mabolgampau Dan Do

Nos Lun 5ed Gorffennaf cynhaliwyd Mabolgampau Dan Do ar gyfer ysgolion Sul a chlybiau ieuenctid Cristnogol Dwyrain Sir Gaerfyrddin yn Neuadd Chwaraeon Rhydaman.  Roedd y cystadleuthau wedi eu rhannu i ddau oed, sef Meithrin a blynyddoedd 2, a Cynradd blynyddoedd 3-6.
Roedd y cystadleuthau yn cynnwys rhedeg, rasus cyfnewid, taflu pel, naid hir, naid driphlyg, neidio cyflym, taflu pwysau a tynnu rhaff.

Gwnaeth pawb o dim Gellimanwydd yn arbennig o dda ac mae nifer yn mynd trwyddo i'r rowndiau terfynol, gan gynnwys timau rhedeg cyfnewid a'r tim tynnu rhaff.
Cynhelir y rowndiau terfynol y sir gan gynnwys cystadleuthau uwchradd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf.

Saturday, July 03, 2010

TRIP YR YSGOL SUL

Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf aeth llond bws o aelodau a ffrindiau yr Ysgol Sul i Ddinbych y Pysgod. Gadawodd llond bws ohonom Gellimanwydd am 9.00 ac roeddem yn Ninbych y Pysgod am 10.15.[Image]Unwaith eto roedd y tywydd yn fendigedig a cawsom gyfle i fynd i'r traeth i fwynhau'r tywod a'r môr ac yr un mor bwysig y cyfeillgarwch a'r sgwrs. Roedd pawb wrth eu bodd yn chwarae rownderi, criced, adeiladu castell tywod, nofio yn y môr, bwyta brechdannau ac yfed te neu goffi ar y traeth. Diolch i Kevin o gwmni bysiau Gareth Evans am fynd a ni ac i Edwyn am y trefniadau.