Tuesday, July 14, 2015

Bwrlwm Bro Dyffryn Aman A’r Cylch

Cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Dyffryn Aman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar fore Sul Mehefin 7fed. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

Y thema o dan sylw oedd Noa a’r dilyw. Cyflwynwyd y neges trwy chwarae gêm, stori a chrefft. Cafwyd hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod Duw, er ei fod yn casau drygioni, yn ein caru ac am i ni ymddiried yn ei Fab Iesu Grist. Fel yr oedd Noa a’i deulu yn ddiogel yn yr arch, mae’r sawl sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu hefyd yn ddiogel, a hynny am byth.


Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau’n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad  cyfoes o’r ffydd. Am ragor o luniau gwelir www.micsirgar.org

Sunday, July 05, 2015

Y PARCHGEDIG RYAN THOMAS YN DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH





Bore Dydd Sul 5 Orffennaf cawsom fel gofalaeth newydd gyfle i ddathlu'r ffaith bod ein Gweinidog wedi cyrraedd carreg filltir sef 25 mlynedd yn y Weinidogaeth.

Daethom ynghyd i Gapel Gellimanwydd i gyd addoli mewn Oedfa Gymun. Cawsom eitem gan blant yr Ysgol Sul. Cyflwynodd Dafydd Llewelyn a Catrin Brodrick rodd i'r Gweinidog ar ran yr Ofalaeth. Yna wedi'r Oedfa cawsom gyfle i ddathlu drwy gynnal parti penblwydd arbennig yn y Neuadd.

Roedd gwledd wedi ei pharatoi gan yr aelodau a chafodd bawb mwy na digon i fwyta. Wrth gwrs does dim un parti yn gyflawn heb gacen i ddathlu'r achlysur. 

Hyfryd oedd gweld y Capel a'r Neuadd yn llawn ar gyfer diwrnod i'w gofio yn dathlu gyda Ryan.