Sunday, March 25, 2007

Diddymu Caethwasiaeth

Diddymiad Caethwasiaeth oedd thema ein hoedfa foreol ar Ddydd Sul, 25 Mawrth, 2007, a hithau'n union 200 mlynedd i'r diwrnod pan basiwyd Deddf Dileu Caethfasnach.

Roedd ein cyfeillion o Eglwys Moreia wedi ymuno a ni yn yr oedfa a chawsom gan ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees, hanes William Wilberforce; John Newton, cyfansoddwr yr emyn Rhyfeddol Ras (Amazing Grace); Thomas Clarkson; Granville Sharp; James Ramsey a Josiah Wedgewood, ymysg eraill, yn eu hymdrechion i ddiddymu'r fasnach gaethweision.

Cawsom ein harwain drwy ddarlleniadau o'r Beibl, myfyrdod; gweddiau, a chan. Cawsom unawd o'r emyn Rhyfeddol Ras, ac yna ymunodd y ddau gor, Gellimanwydd a Moreia, i ganu anthem y Gymanfa Ganu eleni.

Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpaned o de a bisgedi. Roedd yn fendith cael bod yn bresennol a chofio am ymdrechion pobl er lles dynoliaeth.

"Free at last, Free at last
Thank God Almighty
I'm Free at last."
Martin Luther King 1929 - 1968

Os hoffech wybod mwy am ymdrechion William Wilberforce a Diddymwyr y Fasnach gaethweision yna darllenwch yr erthygl yn Y Tyst Mawrth 15, 2007 gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees.

Sunday, March 18, 2007

CYMANFA GANU - Rihyrsal y plant


Bore Sul 18 Mawrth daeth Ysgolion Sul Rhydaman a'r Cylch ynghyd i Neuadd Gellimanwydd er mwyn ymarfer yr emynau sydd i'w canu yng Nghymanfa 2007.

Mrs Gloria Lloyd oedd wrth y piano ac athrawon Ysgolion Sul yr ardal yn cynorthwyo'r plant. Cawsom ymarfer ar gyfer eitem y plant. Bydd plant y capeli yn ymuno i roi eitem yn oedfa'r Bore. Yn y llun gwelir rhai o blant Ysgolion Sul yr ardal yn ymarfer.

Cynhelir y Gymanfa Ganu Undebol (Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia a Seion, Capel Newydd, Bethani, a Gosen)
ar Ddydd Sul y Blodau, Ebrill 1af 2007
yng Ngellimanwydd.
Yr arweinydd fydd Mrs Delyth Hopkin Evans, Tregaron gyda
Mrs Gloria Lloyd yn cyfeilio.

Sunday, March 11, 2007

GWASANAETH GRAWYS

Thema oedfa Bore Sul 11 Mawrth, 2007 oedd y Grawys a rhai o'r cymeriadau a gafodd eu dylanwadu gan yr Iesu. Bethan Thomas ein Hysgrifennydd oedd yn gyfrifol am yr oedfa.
Y Grawys yw tymor o 40 diwrnod o baratoi am farwolaeth ac ATGYFODIAD yr Iesu ar Sul y Pasg. Mae'r tymor yn dechrau ar Ddydd Mercher Lludw. Yn ystod y Grawys rydym yn dilyn yr IESU drwy ei wenidogaeth hyd at yr wythnos sanctaidd a'i groesholio ar Ddydd Gwener y Groglith.
Cawsom drwy weddiau, stori i'r plant, emynau, deuawd, darlleniadau a myfyrdodau hanes rhai o bobl y Beibl.
Clyswom fyfyrdodau Ioan Fedyddiwr, Mair Mam Iesu, Y wraig o Samaria, Y gwahanglwyf a Lasarus a oedd yn trafod sut roedd Iesu wedi cyffwrdd a nhw a newid eu bywydau yn llwyr.

"ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dwr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dwr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddwr o'i fwn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol." Ioan 4:14


Friday, March 02, 2007

Drws Agored


Mae Drws Agored yn mynd o nerth i nerth pob dydd Iau. Unwaith eto mae ffrindiau Drws Agored wedi bod yn ddiwyd yn cyfrannu'n hael tuag at elusennau lleol. Yn ddiweddar cyflwynnodd Ken a Marryl Bradley rodd o £50 i fad achub Dinbych y Pysgod.
Yn y llun gwelir Ken a Marryl yn cyflwyno'r rhodd i Mr Fred Broomhead (Rheolwr Bad Achub, Dinbych y Pysgod).