Sunday, June 24, 2007

Cwrdd Teuluol

Bore Sul 24 Mehefin cynhaliwyd cwrdd teuluol. Ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees oedd yn gyfrifol am y cwrdd. Thema y gwasanaeth oedd Teulu Duw. Roedd Mari a Dafydd Llywelyn, ac Elan Daniels yn rhoi emynau allan. Yna cawsom ddarlleniad pwrpasol gan Manon Daniels, sef Mathew 10 - Rhoi Comisiwn i'r Deuddeg.
Drwy gyfrwng lluniau ar yr uwchdaflynydd soniodd Y Parchg Dyfrig Rees, sut yr ydym ni yng Ngellimanwydd yn aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Council for World Mission ac yn wir yn rhan o deulu mawr Duw.
"Rŷm ni gyd yn y tŷ,
rŷm ni gyd yn y tŷ,
rŷm ni gyd yn y tŷ ar y graig;
safwn ni ar sylfaen gref,
canwn foliant hyd y nef,
rŷm ni i gyd yn y tŷ ar y graig."
Cyf- Sion Aled, Arfon Jones, Tim Webb

Trip - Dinbych y Pysgod

Dydd Sadwrn 23 Mehefin, 2007 aeth llond bws ohonom ar ein trip blynyddol. Dinbych y Pysgod oedd ein cyrchfan. Cyrhaeddodd y bws yn brydlon y tu allan i'r capel am 9.00 ac yna i ffwrdd a ni. Roedd y rhagloygon tywydd ddim yn dda - cawodydd trwm -, ond yn wir cawsom ein siomi ar yr ochr orau. Roedd y tywydd yn braf a heulog trwy'r dydd. Cafodd y plant hwyl arbennig yn y môr, yn chwilio am grancod a chwarae peldroed a chriced. Manteisiodd rhai ar y cyfle i fynd i siopa tra aeth eraill ar drip pysgota am fecrill. Rydym yn edrych ymlaen yn barod am y trip nesaf.

Sunday, June 10, 2007

Guto Prys ap Gwynfor

Dydd Sul 10ed Mehefin cynhaliwyd ein Cyrddau pregethu. Y pregethwr gwadd oedd Guto Prys ap Gwynfor o Landysul. Llywyddwyd y cyrddau gan Mr Norman Richards, un o'n diaconiaid.
Mrs Gloria Lloyd oedd wrth yr organ fel arfer.
Testun oedfa'r bore oedd Ioan Pennod 14.
"Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd".