Tuesday, September 23, 2008

JOIO GYDA IESU 2008


Ar brynhawn Sul Medi 21ain cynhaliwyd oedfa arbennig ar gyfer eglwysi Gogledd Myrddin yng Nghapel Newydd, Llandeilo. Galwyd yr oedfa yn “Joio Gyda Iesu” a dyma`r ail flwyddyn yn olynol i`r oedfa hon gael ei chynnal. Roedd ffurf a threfn yr oedfa dipyn yn wahanol i`r arfer gyda`r pwyslais ar ddathlu`r ffydd Gristnogol mewn llawenydd, tra`n dyrchafu enw Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr. Mewn geiriau eraill, cyflwyno`r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni.

Croesawyd y dyrfa niferus o tua 350 ynghyd gan gadeirydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, Mr Mel Morgans, ac agorodd mewn gair o weddi. Dilynwyd hyn gyda rhai o blant Ysgol Sul Capel Newydd, Llandeilo yn cyflwyno emyn a darlleniad cyfoes yn seiliedig ar Salm 103.

Prif westai`r dydd oedd Martyn Geraint (S4C) ac fe wnaeth ddechrau trwy ddiddanu`r plant (a`r oedolion!) yn ei ffordd arbennig ei hun trwy chwarae “Family Fortunes” gyda chylchoedd trafod yn mynd o sedd i sedd. Dilynwyd hyn gan ganu swynol côr Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Llandeilo cyn i Martyn ei hun ganu mawl i`r Arglwydd gyda rhai o`i gyfansoddiadau personol.

Gwestai arall fu`n cymryd rhan oedd Menna Machreth Jones o Landdarog sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei hymchwil ym Mangor. Bu Menna yn rhannu gyda`r gynulleidfa ei phrofiad o ddod i adnabod Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr personol cyn i Martyn rannu am ei ffydd yntau. Wrth iddo ymateb i gwestiynau a holwyd iddo gan Y Parch Geraint Morse (Caerfyrddin) amlygwyd ei ffydd ddofn yng Nghrist sy`n cael ei adlewyrchu yn ei fywyd a`i wasanaeth ffyddlon yn ei gapel ym Mhontypridd. Er gwaethaf ei fywyd prysur yn perfformio o gwmpas Cymru, ymateb i alwadau`r cyfryngau, ei wasanaeth yn yr eglwys leol, heb son am alwadau teuluol, mynegodd Martyn am y ffordd y mae bob dydd yn rhoi amser o`r neilltu i dreulio gyda`r Arglwydd mewn gweddi a myfyrdod o`i Air.

Roedd yr oedfa arbennig hon ar gyfer y teulu cyfan ac fel mae`r teitl yn awgrymu fe wnaeth pawb oedd yn bresennol “joio gyda Iesu.” Cyflwynwyd y fendith gan Y Parch Emyr Gwyn Evans (Tymbl), ysgrifennydd y Fenter. Y gobaith yw gweld yr oedfa hon yn parhau i gael ei chynnal yn flynyddol ar ddechrau`r tymor fel hwb a sbardun i waith a thystiolaeth Ysgolion Sul y cylch.

Saturday, September 13, 2008

LANSIO CLWB HWYL HWYR


Nos Wener, 12 Medi oedd noson lansiad Clwb Hwyl Hwyr yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd gweld cymaint o blant a rhieni yn bresennol. Cawsom gwmni Rosfa y consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn. Roedd Rosfa ar ei orau yn dangos i'r plant mawr a bach wahanol driciau hud a lledrith, ac yn ogystal roedd yn defnyddio nifer o'r plant i'w gynorthwyo. Roedd angen gair hud arbennig i wneud i'r "magic" weithio -Y gair hud oedd inky winki Pww!

Diolch i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.

Clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr, sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman dan arweiniad Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.

Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. ’Does dim tâl aelodaeth, ond gwneir casgliad wythnosol – awgrymir 50c. – tuag at gronfa’r ClwbMae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno â ni. Mewn cyfnod sy’n llawn o beryglon ac atyniadau amheus, dyma gyfle gwych i blant gyfarfod â’i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol.

Wednesday, September 03, 2008

Lansio CLWB HWYL HWYR




Dewch i'r lansiad nos Wener 12 Medi yn Neuadd Gellimanwydd.

Croeso cynnes i bawb