Sunday, December 30, 2012

GWASANAETH NADOLIG Y TEULU

"Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol,
Duw cadarn,
Tad bythol, Tywysog heddychlon".
Eseia 9:6
Ar brynhawn Dydd Sul Rhagfyr 23 cynhaliwyd oedfa deuluol Y Nadolig. Unwaith eto adroddwyd ddrama Y Nadolig gyda plant yr Ysgol Sul, Ieuenctid y Capel, a Rhieni yn cymryd rhan.
Dechreuwyd yr oedfa gan gorau'r Capel yn canu emynau dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio.
Wedyn cawsom ein tywys i Fethlehem gan blant yr Ysgol Sul.

Drama draddodiadol oedd gennym gyda'r plant lleiaf yn actio rhannau'r Angylion a'r bugeiliad. Macy oedd yr angel Gabriel, Catrin yn cymryd rhan Mair a Luke rhan Joseff.
Roedd ieuenctid yr Ysgol Sul a rhieni'r plant yn darllen, gweddio a cyflwyno'r carolau.
 
Mrs Bethan Thomas oedd yn bennaf gyfrifol am y gwasanaeth gyda chefnogaeth athrawon yr Ysgol Sul sef Mrs Catrin Thomas ac Mr Edwyn Williams.





Monday, December 24, 2012

GWASANAETHAU NADOLIG

 
Roedd Dydd Sul 23 Rhagfyr yn ddiwrnod o ddathlu y Nadolig yng Ngellimanwydd. I ddechrau aethom i Moreia, Tycroes, ein chwaer eglwys ar gyfer Gwasnaeth Boreol y Nadolig.
Roedd yna naws hyfryd gyda'r capel yn llawn. Aelodau Moreia oedd yn arwain yr oedfa a cawsom ddarlleniadau, gweddiau ac adroddiad.
Hefyd cawsom eitemau gan corau merched, dynion a chor Capel Gellimanwydd, dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd, gyda Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio. 
Anerchwyd fyfyrdod pwrpasol iawn gan gweinidog y ddwy eglwys, sef Y Parchg Dyfrig Rees. Drwy ddull lluniau ar y sgrin dangosodd i ni sut gall y ddynoliaeth edrych os ydym yn dilyn bod bodau dynol o werth anfeidrol, ac eu bod wedi’u creu ar ddelwedd Duw.
 
Wedi'r oedfa yn ol yr arfer aethom i'r festri i rannu cwpanaid o de a bisgedi a chymdeithasu gyda chyfeillion.
Roedd yn ddechrau hyfryd i'n dathliadau.
 

Saturday, December 22, 2012


Wednesday, December 19, 2012

OEDFAON NADOLIG

Ar drothwy'r Nadolig dyma restr o'n hoedfaon dros yr Wyl.

DYDD SUL 23 Rhagfyr
BORE - Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia ym Moreia, Tycroes am 10.30am
.
PRYNHAWN - OEDFA NADOLIG Y TEULU AM 3.00PM
Wedi'r oedfa cawn gyfle i barhau a'n dathliadau Nadolig drwy gynal PARTI NADOLIG yn y Neuadd.
 
25 RHAGFYR
CYMUN BORE NADOLIG AM 8.30AM