Tuesday, December 24, 2013

GWASNAETH NADOLIG

Dyma'r plant yn ymarfer yn galed.



Tuesday, November 26, 2013

Joio Gyda Iesu


Ar brynhawn Sul Tachwedd 3ydd cynhaliwyd oedfa flynyddol Menter Ieuenctid Cristnogol sir Gaerfyrddin -  “Joio Gyda Iesu” - yng nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth tyrfa fawr o rai cannoedd ynghyd ac roedd yn olygfa odidog i weld y capel yn gyffyrddus lawn. Nod yr oedfa oedd cyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu Grist mewn ffordd gyfoes, syml a pherthnasol ar gyfer ein dydd.

 Arweiniwyd yr addoliad mewn ffordd fywiog a medrus gan fand lleol - “Y Diarhebion”- a chymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o Ysgolion Sul yr ardal. Cafwyd cyflwyniad graenus ar lafar ac ar gân gan blant o Ysgol Gymraeg Rhydaman ar y thema, “Heddwch Drwy’r Byd.” Fel arwydd o werthfawrogiad am gyfraniad yr ysgol, cyflwynodd Y Parchg. Tom Defis (cadeirydd M.I.C.) gopi o’r llyfr canu Cristnogol cyfoes, “Y Cyntaf A’r Olaf” i’r prifathro, Mr. Geraint Davies.

Un o’r gwestai gwadd eleni oedd Iestyn ap Hywel sy’n Arolygwr ac Ysgogydd Eglwysig gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn sir Gaerfyrddin. Rhannodd mewn ffordd syml a diddorol ei brofiad o’r Arglwydd a’r modd y daeth i ffydd bersonol yn Iesu Grist.

 Eitem boblogaidd o flwyddyn i flwyddyn yw’r sgets. Eleni perfformiwyd sgets “Y Stylists” gan bobl ifanc  Moriah, Brynaman. Yn anffodus, oherwydd salwch munud olaf bu’n rhaid i’r prif gymeriad dynnu allan, ond daeth Mr. Mel Morgans i’r adwy a chamu fewn heb ddim rhybudd. Ymysg digrifwch y sgets, cafwyd neges bwrpasol yn herio’r gynulleidfa i beidio cael eu dylanwadu gan beth mae pobl yn ddweud, ond i wrando ar yr hyn mae Duw yn ddweud yn ei air.

Yn dilyn y sgets daeth yr ail westai i’r blaen, sef Y Parchg. Ian Hughes o Lanelli. Yn ei ffordd unigryw ei hun cyflwynodd neges bwrpasol a chyflwynwyd y fendith gan Edwyn Williams o Gellimanwydd.

Dymuna pwyllgor M.I.C. ddiolch yn fawr i eglwys Gellimanwydd, Rhydaman am gael defnydd o’r adeilad ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu at oedfa arbennig iawn. (Am ragor o luniau ewch i wefan M.I.C. ar www.micsirgar.org.

Wednesday, November 20, 2013

Cyfarfodydd Cymorth Cristnogol


Cynhaliwyd Cwis blynyddol Cymorth Cristnogol, cangen Rhydaman ar Nos Wener 15 Tachwedd  yn Neuadd Gellimanwydd. Roedd stondianau Traidcraft a chardiau Nadolig ar werth a hyfryd oedd gweld 6 capel ac eglwys yn cystadlu. Y tim buddugol oedd “Manwydd” sef Mandy Rees, Linda Williams a’r parchg Dyfrig Rees o Gellimanwydd. Y cwis feistr oedd Edwyn Williams.

Yna ar Nos Sul 17 Tachwedd cawsom gyfarfod yng yng Nghapel Ebeneser am 5.30 pan roedd  Y Parchg Tom Davies, Cymorth Cristnogol yn annerch. Dechreuodd y Parchg John Talfryn Jones y cyfarfod drwy groesawu pawb  ac yna Mrs Ann Jewell yn darllen o’r beibl. Cawsom hanes ar sut mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i ddileu tlodai a rhoi gobaith ar waith drwy fyw ein ffydd gan Y Parchg Tom Davies. Cyflwynwyd y diolchiadau gan Y Parchg Dyfrig Rees. Mae’n diolch yn mynd i Mrs Ann Jewell am drefnu’r ddau achlysur 

Thursday, November 14, 2013

CYMORTH CRISTNOGOL


Gwasanaeth Cymorth Cristnogol
 Ebeneser Rhydaman
5.30 Nos Sul 17 Tachwedd.
Bydd Y  Parch Tom Davies yn son am gydweithio mewn argyfwng.
 
HEFYD AR Nos Wener 15 Tachwedd yn  Neuadd Gellimanwydd am 7.00pm cynhelir y
Cwis blynyddol Cymorth Cristnogol.
Pris mynediad yw £1 gan gynnwys te a bisgedi.
 
Croeso i bawb i'r ddau ddigwyddiad



Monday, October 28, 2013

BEDYDD

Hyfryd oedd cael bod yn bresennol yn Oedfa'r Bore, Dydd Sul 27 Hydref pan  roedd Cadi Haf, merch Mari Lisa a Mark Richards yn cael ei bedyddio. Mae Cadi Haf yn Wyres i Fiona Archer ac yn or-wyres i Cyril a Gwenda Wilkins.

Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn
blant bach i'w freichiau ef ei hun:
"Ac na waherddwch hwynt," medd ef,
"cans eiddynt hwy yw teyrnas nef."
Caneuon Ffydd 642

Sunday, October 27, 2013

JOIO GYDA IESU

Ar brynhawn Dydd Sul 3 Tachwedd am 2.30 bydd Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gaerfyrddin (M.I.C) yn cynnal Oedfa arbennig Joio Gyda Iesu yng Ngellimanwydd. Oedfa i'r holl deulu fydd hon. 
Cyflwynir sgets gan Ieuenctid Moreiah, Brynaman. Bydd Cor Ysgol Gymraeg Rhydaman yn canu, a bydd Iestyn ap Hywel yn rhannu ei brofiad. Y siaradwr gwadd fydd Ian Hughes. Bydd aelodau hyn Ysgol Sul Gellimanwydd yn darllen.

Mae croeso cynnes i bawb i ymuno a ni yn yr Oeda hon.

"Llawenhewch yn yr  Arglwydd bob amser" - Philipiaid 4:4

Wednesday, October 23, 2013

Diolchgarwch



Cynhaliwyd Oedfaon Diolchgarwch y capel ar ddydd Sul 20 Hydref. Oedfa deuluol oedd yn y bore gyda Hanes Noa yn thema. Roedd y plant i gyd wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr a phob un yn cymryd at eu rhan yn broffesiynol.  Hyfryd oedd gwled y capel yn llawn o deuluoedd ifanc. Yn ystod yr oedfa roed dy plant yn dod ymlaena chyflwyno bocsus esigidiau ar gyfer Operation Christmas Child. Wedi’r oedfa cawsom de parti fel rhan o’n dathliadau a diolch am y Cynhaeaf.

Yna yn yr hwyr cawsom oedfa ddiolchgarwch yr oedolion gyda anerchiad bwrpasol gan ein gweinidog a chyfraniadau gan yr aeoldau  gan gynnwys eitemau gan Gôr y Capel.

Sunday, September 29, 2013

J.A.M. I Blant Rhydaman


Mae’r gair “JAM” wedi cymryd arno ystyr newydd sbon yn Rhydaman. Na, nid y peth melys yna sy’n cael ei roi rhwng bara menyn yw prif ystyr y gair bellach, ond enw ar glwb Cristnogol i blant sydd newydd gael ei lansio. Mae J.A.M. yn sefyll am “Joio A Moli” (neu yn Saesneg, “Jesus and Me”).

Yn dilyn misoedd o gynllunio a pharatoi gan gynrychiolwyr o eglwysi Rhydaman a’r cylch lansiwyd y clwb, sy’n darparu ar gyfer plant blynyddoedd 3 - 6, gan Eirian Wyn (“Rosfa”) ar Fedi 19eg, ac mae J.A.M. yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Nod y clwb yn syml iawn yw cyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu mewn ffordd gyfoes a llawn hwyl.

Mae J.A.M. yn glwb cyfrwng Cymraeg ac mae’n cyfarfod ar nos Iau o 5:30 – 6:30 y.h. Yr arweinydd yw Lisa Jones ac mae yna groeso cynnes i blant yr ardal i fynychu’r clwb ac ymuno yn yr hwyl. Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa ar 01269 820730 / liscymru@hotmail.com neu Y Parchg. Emyr Gwyn Evans ar (01269) 831083 / emyrgwyn@btinternet.com

Friday, September 27, 2013


CYNGOR EGLWYSI RHYDDION RHYDAMAN A’R CYLCH

CYNHELIR
 

CYFARFOD WEDDI UNDEBOL YN Y FESTRI YNG NGHAPEL EBENESER NOS FAWRTH  NESAF, Y CYNTAF o FIS HYDREF  AM 6.00 o’r GLOCH YR HWYR


CROESO CYNNES i BAWB.
 
  Brian Owen
Ysgrifennydd

Monday, September 02, 2013


CYNGOR EGLWYSI RHYDDION RHYDAMAN A’R CYLCH
 
CYNHELIR

CYFARFOD WEDDI UNDEBOL YN Y FESTRI YNG NGHAPEL GELLIMANWYDD NOS FAWRTH  NESAF Y TRYDYDD o FEDI  AM 6.00 o’r GLOCH YR HWYR
 
Darperir cwpanaid o de ar diwedd y cyfarfod.
 Croeso cynnes I bawb.
 

 

Wednesday, August 28, 2013

Oedfaon Undebol

Hyfryd oedd cael cyd-addoli gyda aelodau eglwysi tref Rhydaman dros mis Awst.
Ar ddydd Sul 11 Awst roeddem I gyd yng Ngellimanydd gyda Mr Brian Owen yn pregethu. Yna y Sul canlynol y Parchg Vivian Rees, oedd yn pregethu yn Ebeneser,  ac ar Fore Sul 25 Awst roeddem yn y Gwynfryn gyda y Parchedig Marc Morgan, Wrexham yn arwain yr oedfa.
 
Roedd yn wir fendith cael bod yn bresennol yn yr oedfaon.
 
Molwch yr ARGLWYDD!
1 Haleliwia!
Molwch Dduw yn ei deml!
Molwch e yn ei nefoedd gadarn!
2 Molwch e am wneud pethau mor fawr!
Molwch e am ei fod mor wych!

3 Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd Ref !
Molwch e gyda'r nabl a'r delyn!
4 Molwch e gyda drwm a dawns!
Molwch e gyda llinynnau a ffliwt!
5 Molwch e gyda sŵn symbalau!
Molwch e gyda symbalau'n atseinio!

6 Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r ARGLWYDD!
Haleliwia!

Sunday, July 21, 2013

Trip yr Ysgol Sul


Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, aeth aelodau a ffrindiau'r ysgol Sul I Ddinbych y Pysgod am ein trip blynyddol. Roedd y tywydd yn fendigedig. Roedd y bws yn gadael am 9.30 ac erbyn 10.30 roeddem wedi cyrraedd.
Cawsom ddiwnod i'r brenin yng nghwmni cyfeillion ar y traeth. Wrth gwrs aeth y plant I mewn i'r mor gan fynnu I ni'r oedolion ei fod yn gynnes iawn!
Waneth rhai chwarae criced, eraill ymlacio ar y deck chairs  tra bod rhai yn manteiso ar y cyfle I fynd I siopa am ychydig.
Yna ar ol cael pryd blasus o "fish and chips" roedd yn amser mynd adre gyda'r bws yn gadael am 5.00.
Roed dyn wir ddiwrnod bendigedig gyda pawb wedi mwynhau'n fawr.

Tuesday, July 02, 2013

Cwpan Denman



Mae wastad diddordeb mawr yng nghystadleuaeth Cwpan Denman, sef rhodd Cyfundeb Lerpwl ar gyfer Cystadleuaeth Blynyddol Ysgolion Sul Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Yr her eleni oedd creu baner ar y thema "Stori Fawr Duw". 

Ysgol Sul Gellimanwydd, Rhydaman ddaeth yn fuddugol eleni. Yn y llun gwelwch rhai o blant yr ysgol Sul yn arddangos y gwpan gyda'r faner yn y cefndir, ac yn y llun arall gwelir Llywydd Undeb Annibynnwyr Cymru, y Parchg Ron Williams yn cyflwyno'r gwpan yng Nghyfarfod Blynyddol yr Undeb ym Mangor i Mrs Mandy Rees, Gellimanwydd. 

Yn ogystal ac ennill y cwpan derbyniwyd siec o £200 a fydd yn cael ei ddefnyddio at waith yr ysgol sul.

Bydd yr Ysgol Sul yn cau dros yr haf ond mae croeso i bawb ymuno a ni ar fore Sul yn Neuadd Gellimanwydd.

 

Croesawu Gweindigogion Newydd

Braint oedd cael gweld dau weinidog newydd yn cael eu croesawu gan Lywydd yr Undeb yn ystod cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym Mangor ym mis Mehefin eleni.Mae Carwyn Siddall â Gofalaeth Bro yn Llanuwchllyn.

Tra bod y Parchg Guto Llywelyn, cyn aelod yn Gellimanwydd newydd ei sefydlu mewn gofalaeth yn ardal Hendygwyn-ar-daf

Sunday, June 23, 2013

BWRLWM BRO 2013





Cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul cylch Dyffryn Aman  yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar Dydd Sul 23 Mehefin. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

 Trefnwyd gemau a gweithgareddau o gwmpas “Sacheus: Y Bos Bach.” Cafwyd llawer o hwyl yn dysgu am y casglwr trethi hwn wnaeth newid yn llwyr ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Yn roedd Saccheus yn dyheu am fywyd newydd, un sydd yn llawn cariad Duw ac fe wnaeth ildio a gafael yn y cariad hwnnw'n llwyr.

Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Hyfryd oedd gweld yr Ysgolion Sul yn dod at ei gilydd a’r neuadd yn llawn a’r plant yn cael cymaint o hwyl yng nghwmni eu gilydd.


 

Friday, June 14, 2013

Dathliadau 90


 Roedd Mr Norman Richards, 1 Parc Tir y Coed, Rhydaman, ein diacon hynaf,  yn dathlu ei benblwydd yn 90 yn ddiweddar, yn ogystal a Mrs Beryl James, Cerith, Lon Brynmawr, yr un modd.
Gyda Mrs James yn y llun mae dau o gyn weinidogion Gellimanwydd, y Parchg Dewi Myrddin Hughes a’r Parchg Derwyn Morris Jones ynghyd a’r Gweinidog presenol, y Parchedig Dyfrig Rees.

Thursday, May 23, 2013

Cwrdd Teuluol Y Sulgwyn



Bore Sul 19 Mai cynhaliwyd cwrdd teuluol yng Ngellimanwydd.  Wnaeth Marged, Elen, Efa, Gwenno, Mali, Gwenan a Luke gyhoeddi'r emynau.
Roedd prif rhan y gwasanaeth yn nwylo medrus Mari, Dafydd a Catrin.
Cawsom eitem gan y plant lleiaf sef canu'r emyn "Dod ar Fy mhen".
 
Wedi'r oedfa yn ol yr arfer aethom i'r neuadd i rannu cwpanaid o de a chael cyfle i gymdeithasu. Roedd yn wir fendith cael bod yno yn clywed a gweld y plant i gyd yn cyflwyno mor hyderus a phroffesiynol.

 

Tuesday, May 21, 2013

SEFYDLU AC ORDEINIO MR GUTO LLYWELYN


Cynhaliwyd cyfarfod Ordeinio a Sefydlu Mr Guto Llywelyn, Eglwys Annibynnol Gellimanwydd, Rhydaman yn Weinidog i Iesu Grist ar Eglwysi Annibynnol Tabernacl, Hendygwyn ar Daf; Bethel, Llanddewi Efelfre; a Trinity, Llanboidy ar ddydd Sadwrn, 18 Mai, 2013 yng Nghapel Y Tabernacl, Hendygwyn ar Daf.
 
Aeth llond bws o aelodau a ffrindiau gellimanwydd i'r cyfarfod. Llywydd y dydd oedd Y Parchg Jill Hayley Harries, sydd bellach yn weinidog yn Sgeti.
Cawsom alwad i Addoli gan y Parchg Emyr Lyn Evans, Abergwili ac yan darlleniad o'r beibl gan Y Parchg John  Gwilym Jones. Peniel. y Parchg Dewi Myrddin Hughes offrymodd y Weddi cyn i Plant ac ieuenctid y Capel gyflwyno eitem hyfryd.
Roedd yr Urddo yng ngofal Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Llandysul.  Y Parchg Euros Wyn Jones, Llangefni offrymodd yr Urdd Weddi tra bod Y Parchg Tom T Defis, Ffynnon-ddrain yn cyhoeddi Emyn yr Urddo


Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn Pregethu a chawsom bregeth gref ganddo yn pwysleisio bod angen gwneud yn siwr bod Iesu yn y canol.
Mrs Meryl James oedd yn rhoi hanes yr alwad ac yna cyflwynodd Mr Lynford Thomas ar ran Capel Ty'ngwndwn ac Mr Edwyn Williams ar ran Capel Gellimanwydd.
Roedd nifer yn croesau Guto i'r ofalaeth sef, Mr Tudor Eynon ar ran y dair eglwys; Y Parchg Felix Aubel ar ran Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin; Mrs Mererid Moffett ar ran Cyfundeb Penfro a'r Parchg Rhodri Glyn Thomas ar ran eglwysi'r cylch. Y Parchg Aled Jones, Llandysul oedd yn cloi'r gwasanaeth drwy gyhoeddi'r Fendith. 
 
Wedi'r oedfa cawsom groeso arbennig yng nghwmni aelodau'r dair eglwys drwy ranuu  lluniaeth hyfryd  yn y Festri. Roedd yn wir ddiwrnod o ddathlu ac mae Gellimanwydd yn hynod falch bod un ohonom ni wedi dewis i fynd i'r Weinidogaeth.

Saturday, May 18, 2013

CYFARFOD ORDEINIO A SEFYDLU MR GUTO LLYWELYN

Cynhelir cyfarfod Ordeinio a Sefydlu

Mr Guto Llywelyn,

Eglwys Annibynnol Gellimanwydd, Rhydaman

yn Weinidog i Iesu Grist ar Eglwysi Annibynnol Tabernacl, Hendygwyn ar Daf; Bethel, Llanddewi Efelfre; a Trinity, Llanboidy

ddydd Sadwrn, 18 Mai, 2013

am 1.30pm

yng Nghapel Y Tabernacl, Hendygwyn ar Daf.

Estynnir croeso cynnes i bawb

Thursday, April 18, 2013

CYMANFA GANU UNDEBOL




Sunday, April 07, 2013

CYMANFA GANU UNDEBOL RHYDAMAN A'R CYLCH




 
Cynhaliwyd ein CYMANFA GANU eleni ar Ddydd Sul Y Blodau, Mawrth 24ain 2013 Yng Nghapel Gellimanwydd.
Yr arweinydd oedd  Mr. Owain Sion Gruffyddo Landeilo, gyda Mrs Gloria Lloyd wrth yr organ. Mae ein diolch yn fawr i'r ddau am wneud hon yn Gymanfa o wir ddathlu.
 
Hyfryd oedd gweld aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser yn cyd-ddathlu yn y gymanfa.
 
Mari a Dafydd Llywelyn oedd yn cymryd y rhannau agoriadol yng Ngymanfa y bore.Braf oedd gweld a chywed y plant yn oedfa'r bore yn darllen a chanu'r emynau. Roedd pob un wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr.  Roedd y plant yn mwynhau gyda Owain Gruffydd  yn cael y gorau allan o bawb.
 
Tro'r oedolion oedd hi am 6.00 yr hwyr a braf gweld cymaint yn bresennol ac yn cael cymaint o fendith yn y canu a'r addoli.

Sunday, March 31, 2013

Yr Wythnos Fawr - Sul Y Pasg

Sul y Pasg yn sicr  yw un o ddiwrnodau, os nad diwrnod pwysicaf y flwyddyn!
 
Heddiw ar draws y byd bydd yna ddathlu mawr. Bydd clychau yn seinio ar draws y wlad a chorau yn canu emynau mawr y Pasg, rhai o lawenydd sy'n dathlu Atgyfodiad yr Iesu.
Mae Iesu yn siarad a ni, a pan mae Iesu yn siarad ni allwn ei anwybyddu. Mae ein ffydd yn un o weddi, llawenydd, o gariad a bywyd.
 
 
"Arglwydd Iesu Grist,
yn ystod yr wythnos ddwys a sanctaidd hon,
a ninnau'n gweld o'r newydd
ryfeddod a dyfnder dy gariad drud,
cynorthwya ni i ddilyn ôl dy droed,
i sefyll pan fyddi'n syrthio,
i wrando pan fyddi'n wylo,
i deimlo poen dy boenau di,
ac wrth i tithau farw, ymgrymu a galaru,
fel pan fyddi'n atgyfodi
fe gawn ninnau hefyd
gydgyfranogi o'th lawenydd diddarfod".

(The Book of Common Order, dyfynnwyd o Amser i Dduw, gol. Elfed ap Nefydd Roberts, t. 246)

Monday, March 18, 2013

CYMANFA GANU

CYMANFA GANU UNDEBOL RHYDAMAN A'R CYLCH

(Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser)
 
Cynhelir
CYMANFA GANU
 
Dydd Sul Y Blodau, Mawrth 24ain 2013
Yng Nghapel Gellimanwydd
--------------------------------------------------
Arweinydd:
Mr. Owain Sion Gruffydd
Llandeilo
 
Organyddes
Mrs Gloria Lloyd
B.A., L.R.A.M., L.C.T.L., A.R.C.M.
 
Llywyddion
Bore am 10.30 - Caersalem
Hwyr am 5.30 - Capel Hendre

Tuesday, March 05, 2013

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi


Ar Nos Fercher 27 Chwefror roedd Cymdeithas Gellimanwydd yn dathlu Gŵyl Dewi eleni. Yn ol yr arfer ers sawl blwyddyn bellach Noson o gawl a Sgwrs oedd gennym.

Y wraig wadd oedd y parchg Beti Wyn James, gweinidog Capel Y Priordy, Caerfyrddin.  Cawsom noson arbennig yng nghwmni Y Parchedig Beti Wyn a ffrindiau.

 
 

 

Sunday, March 03, 2013

Bedydd


Yn ystod y Gwasanaeth Teuluol ar fore Dydd Sul 24 Mawrth gweinyddwyd y Sacrament o Fedydd pan bedyddwyd Gruff Ifan, mab Alun ac Elin Rees. Mae Gruff yn frawd i Tomos a Gwenan sydd yn aelodau ffyddlon o Ysgol Sul Gellimanwydd.
Hyfryd oedd gweld y plant i gyd yn eu gwisgoedd traddodiadol yn dathlu Gwyl Ddewi a pha well ffordd na diolch i Dduw am yr anrheg o fywyd plentyn bach a'i gyflwyno i fywyd o Ffydd. 

Sunday, February 24, 2013

Gwasanaeth Gŵyl Ddewi Gellimanwydd

Hyfryd oedd gweld cymaint o deuluoedd ifanc yng ngwasanaeth Bore Sul 24 Chwefror pan cynhaliwyd ein Gwasanaeth Teuluol i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd nifer o blant bach yn cymryd rhan am y tro cyntaf a braf oedd gweld eu bod wedi dysgu eu rhannau yn drylwyr.

Yn ystod y gwasanaeth cawsom ein hatgoffa ein bod yn aml yn rhy brysur gyda’n bywydau bob dydd ac yn canolbwyntio ar y pethau y tybiwn ni sy’n fawr nes ein bod yn anghofio gwneud y pethau bychain. Ie yn aml iawn y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

 

Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd tra’n cael cwpanaid o de a pice ar y maen yn y Neuadd.

SULIAU MAWRTH

Mae'r Mis Mawrth yn un prysur iawn yng Ngellimanwydd. Yn wir mae'n dechrau ar Sul 24 Chwefror pan fydd gennym Oedfa Deuluol yn y bore i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi. Hefyd yn ystod yr oedfa byddwn yn bedyddio un o blant yr Eglwys. Yna yn yr hwyr byddwn yn cynnal yr ysgol Gan Undebol gyntaf ar gyfer ein Cymanfa Ganu Undebol.
 
Mae pob Sul ym Mis Mawrth yn brysur tu hwnt. Does ond angen edrych ar y rhestr isod sydd i weld dros eich hunan. Byddwn yn ymuno a'r Gwynfryn ar gyfer Cyfarfod Pregethu, a bydd Eglwys Moreia, Tycroes, ein chwaer Eglwys yn ymuno a ni ar gyfer Oedfa ar 17ed. Ar Ddydd Sul y Blodau byddwn yn cynnal ein Gymanfa Ganu ac ar Fore Sul Y Pasg bydd ein gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees yn gweinyddu Sacrament y Cymun Bendigaid.
 
MAWRTH 2013
3 - Y Gweinidog: Oedfa Gymun yn y bore.
Hwyr: Ysgol Gan Undebol i'r Gymanfa Ganu yng Ngellimanwydd am 5.30
10 - Cyfarfodydd Pregethu Gwynfryn/Gellimanwydd, Rhydaman yn y Gwynfryn am 10.30 y bore a 5.30 yr hwyr. Pregethwr Gwadd: Y Parchg Llewelyn Picton Jones, B.Sc, M.Ed, Pontarddulais
17 - Bore: oedfa ar y cyd gyda Moreia, Tycroes yng Ngellimanwydd am 10.30
Hwyr: Rihyrsal i'r Gymanfa yng Ngellimanwydd am 5.30
24- Y Gymanfa Ganu undebol yng Ngellimanwydd am 10.30 a 5.30
31- Y Gweinidog (Cymun Bore Sul Y Pasg)

Friday, February 15, 2013

RHAGOR O'R PARTI


MWY O'R PARTI

Sunday, January 13, 2013