Sunday, September 23, 2007

JOIO GYDA IESU

Ar brynhawn Sul Medi 23ain aeth plant yr Ysgol i oedfa arbennig ar gyfer eglwysi Gogledd Myrddin yng nghapel Ebeneser, Rhydaman. Roedd ffurf a threfn yr oedfa dipyn yn wahanol i`r arfer gyda`r pwyslais ar ddathlu`r ffydd Gristnogol mewn llawenydd, tra`n dyrchafu enw Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr. Mewn geiriau eraill, cyflwyno`r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni.

Daeth tyrfa gref o dros 250 ynghyd gyda phob sedd wedi ei gymryd ar lawr y capel. Croesawyd pawb ynghyd a chafwyd gair o weddi gan gadeirydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, Mr Mel Morgans. Dilynwyd hyn gyda dau fochyn bach yn adrodd hanes Y Mab Afradlon. (Cyflwynwyd sgets y pypedau gyda Andy a Carys Hughes o`r Bala sy`n gweithio i`r mudiad Cristnogol, “Saint Yn Y Gymuned”).

A hithau`n gyfnod Cwpan Rygbi`r Byd, priodol iawn oedd cael cwmni Ceri Davies, cyn chwaraewr Y Scarlets a chyn gapten tîm rygbi Llanymddyfri i rannu ei brofiadau fel chwaraewr rygbi a hefyd fel Cristion. Gellir crynhoi ei anerchiad trwy ddweud er cymaint yw ei serch at y gêm hirgron, mae ei gariad at Iesu yn fwy – “rhywbeth dros amser yw rygbi, ond mae Iesu Grist yn ymwneud a thragwyddoldeb.”

Y gwestai arall fu`n cymryd rhan flaenllaw yn yr oedfa oedd Ifan Gruffydd, Tregaron. Holwyd Ifan am ei gefndir a`i ffydd gan Nigel Davies, Swyddog Plant ac Ieuenctid y Fenter. Clywyd sôn am y fagwraeth Gristnogol gafodd Ifan a dylanwad y dosbarth Ysgol Sul oedolion - mae e`n dal i fynychu gyda llaw - a`r argraff fawr gafodd Dr. Martyn Lloyd Jones arno yn fachgen ifanc 21 mlwydd oed. Mae Ifan erbyn heddiw yn enwog fel diddanwr dros Gymru gyfan, ond mae`r dylanwad cynnar wedi parhau ac mae ei ffydd a`i obaith yn sicr yng Nghrist y bedd gwag. Fel dywedodd ar ddiwedd ei gyfweliad, “os wnewch chi geisio`r Arglwydd, fe ddewch o hyd iddo a pheidiwch dalu sylw i sylwadau pobl fel Richard Dawkins (anffyddiwr). Bydd gydag e ddim byd i ddweud wrthoch chi ar lan y bedd!”

Roedd yr oedfa “Joio Gyda Iesu” yn oedfa ar gyfer y teulu cyfan ac fe ganwyd y gân, “Cristion Bychan Ydwyf” gan gôr unedig o Ysgolion Sul y dalgylch o dan arweinyddiaeth fedrus Eryl Jones o Landeilo. Diweddwyd yr oedfa gyda Ifan a Carlo`r ci yn cyflwyno dameg Y Ddafad Golledig a hynny mewn ffordd mor unigryw a doniol a glywodd neb erioed. Cyflwynwyd y fendith gan Y Parch Emyr Gwyn Evans, ysgrifennydd y Fenter.

Roedd hon yn oedfa arbennig iawn, ac fel mae`r teitl yn awgrymu fe wnaeth pawb oedd yn bresennol “joio gyda Iesu.” Gobaith y Fenter yw trefnu oedfa gyffelyb yn flynyddol ar ddechrau`r tymor fel hwb a sbardun i dystiolaeth yr efengyl yn nalgylch Gogledd Myrddin.
“Y mae i’n Waredwr,
Iesu grist Fab Duw,
Werthfawr Oen ei Dad, Meseia,
Sanctaidd, sanctaidd yw.”
Miriam Davies (mam Ceri Davies)

Sunday, September 16, 2007

CYFARFOD ADDOLI ANFFURFIOL

Daeth 14 ohonom i'r Neuadd Nos Iau 13 Medi i addoli'r Iesu a chymdeithasu. Cawsom ein harwain gan ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees. Canwyd emyn yn gyntaf gyda Rhys Thomas yn cyfeilio, yna darllenwyd Mathew4:18-23 "Galw Pedwar Pysgotwr".
Yn dilyn y rhan agoriadol rhanwyd yn ddau grwp a chafwyd trafodaeth ddiddorol a bendithiol am le Duw yn ein bywydau ni heddiw. Yna i gloi'r cyfarfod wnaeth Y Parchg Dyfrig Rees ein harwain mewn gweddi.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de a bisgedi.
Bydd y cyfarfod nesaf ar yr ail ddydd Iau o'r Mis, sef 11 Hydref am 7.30. Croeso cynnes i bawb.

"....ac ar unwaith, gan adael eu cwch a'u tad canlynasant ef". Mathew 4:22

Sunday, September 09, 2007

TRIP Y GYMDEITHAS

Bore Sadwrn, 8 Medi roedd pawb yn barod am ein trip blynyddol. Daeth y bws yn brydlon am 9 ac yna i ffwrdd a ni i Caerfaddon. Roedd y tywydd yn fendigedig. Yn wir un o ddyddiau gorau'r flwyddyn, a braf oedd gweld y bws yn llawn.


Cawsom hanes diddorol nifer o olygfeydd a safleoedd diddorol ar hyd yr M4 gan Y Parchg Dyfrig Rees, gan gynnwys hanes eglwys Sant Teilo sydd wedi ei symud carreg wrth garreg i Amgueddfa Sain Ffagan o'i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais ac fe'i hagorir yn swyddogol yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007 - un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru.

Wedi stop am cwpanaid o de ar y ffordd aethom ymlaen i Caerfaddon. Manteisiodd rhai ar y tywydd godidog a threulio prynhawn difyr yn y parc ger yr afon. Aeth eraill ar drip mewn cwch ar yr afon , rhai ar y bws to agored o amgylch y ddinas. Gwell gan rai oedd crwydro'r ddinas ac edrych ar y persaeniaeth bendigedig tra bod pawb wedi mwynhau ychydig o amser yn crwydro'r siopau.
Yn wir roedd yn ddiwrnod i'r brenin ac mae pawb yn edrych ymlaen at rhaglen y gymdeithas am eleni. Diolch i Mandy Rees a Marion Morgan am yr holl drefniadau.

Tuesday, September 04, 2007

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD


Mae tymor y gymdeithas yn ail ddechrau dydd Sadwrn nesaf gyda'n trip blynyddol. Eleni Caerfaddon yw'r cyrchfan. Cewch hanes y trip ar y wefan mewn ychydig ddyddiau. (Yn y llun gwelwn y criw yn mwynhau trip y flwyddyn diwethaf).
Mae gennym raglen hynod ddiddorol unwaith eto. Diolch i'r swyddogion am y gwaith paratoi, yn enwedig Mrs Mandy Rees yr ysgrifennydd. Llywydd eleni yw ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees a'r trysorydd yw Mrs Marion Morgan. beth am ymuno a ni ar Nos fercher, yn y Neuadd. Dyma restr o'r rhaglen : -

Medi 26 - Swper Diolchgarwch - Cwis dan ofal Edwyn Williams.
Llywydd - Bethan Thomas
I ddiolch - Alun Williams
Mynediad drwy docyn £3.00

Hydref 31 - Ymwelydd o fudiad 2Active8, Rhydaman.
Llywydd - Jean Davies
I ddiolch - Mairwen Lloyd

Tachwedd 28 - Noson Agored -
Cymdeithas Ddrama Gymraeg, Abertawe
Llywydd - Dyfrig Rees

Ionawr 30 -Dilys Griffiths : Triniaethau Amgen
Llywydd - Rowena Fowler
I ddiolch - Marlene Moses

Chwefror 27 - Swper Gwyl Ddewi a Ffug Eisteddfod
Llywydd - Ivoreen Williams
I ddiolch - Edwyn Williams
Mynediad drwy docyn £3.00

Mawrth 26 - Hawl i Holi
Llywydd - Ruth Bevan
I ddiolch - Roy Leach

Ebrill 30 - Ymweliad Cymdeithas Caersalem, Pontyberem.
Llywydd - Mandy Rees
I ddiolch - Edwina Leach