Tuesday, March 22, 2011

Bedydd

Yn ystod Oedfa fore Sul Ionawr 30 yn Ngellimanwydd bedyddwyd Elan Wyn Jones, merch Nia a Gareth Jones, Tycroes. Yna yn oedfa deuluol bore dydd Sul Mawrth 13 bedyddwyd Ifan Wyn Jones, mab Nerys a John Jones, Hopkinstown.

Mae Elan ac Ifan yn gefnder a chyfneither ac yn wyrion i Ann ac Wynford Jenkins, Rhodfa Brynmawr, Rhydaman. Dymunwn pob bendith I’r ddau fach

Sunday, March 20, 2011

Gwasanaeth ar y thema ceiswyr lloches

a
Bore Sul 20 Mawrth criw ACT oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth boreol. Ceiswyr Lloches oedd y thema. Hyfryd oedd gweld cymaint yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer yr oedfa.  Cawsom ein harwain drwy weddi, darlleniadau, emynau, caneuon, adroddiadau a sgetsus at yr angen am Noddfa arnom i gyd.
Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am yr oedfa arbennig.

Thursday, March 17, 2011

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Mae criw ACT yn cyfarfod yn fisol yn Neuadd Gellimanwydd, sef criw o aelodau  ifanc Gellimanwydd, er does dim oedran penodol ar gyfer y criw.
Nos Iau diwethaf, 10 Mawrth, dan nawdd Criw ACT, cawsom noson arbennig yn y Neuadd. Daeth criw o bobl o Abertawe atom. Ceiwsyr lloches neu ffoaduriaid oedd y pobl a daethant atom i son am Abertawe fel dinas Noddfa "City of Sanctuary". Ein Cyn Weinidog  y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd wedi creu'r cyswllt hwn a braf oedd cael croesawu Dewi atom i'n plith.
 Yn ystod y noson cawsom gyngerdd anffurfiol gyda ein gwestwion yn cymryd rhan drwy ddarllen barddoniaeth, adrodd ychydig o hanes a chwarae Drymiau Affricanaidd. Yna daeth aelodau Gellimanwydd at eu gilydd i ganu ychydig o ganeuon traddodiadol Cymreig, a cawsom eitemau ar y piano gan Rhys Thomas.
Un o uchafbwyntiau'r noson oedd gweld plant Ysgol Sul Gellimanwydd, Mari, Elan a Dafydd yn chwarae'r drymiau gyda'r ymwelwyr.
Wedi'r adloniant cawsom gyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn ffurf bwffe bys a bawd oedd wedi ei baratoi gan aelodau Gellimanwydd.
Noson hyfryd gyda neges pwrpasol i ni gyd - mae Dinas Noddfa yn ymgyrch cenedlaethol o bobl lleol a grwpiau cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd i wneud eu trefi a dinasoedd yn lefydd croesawgar, saff ar gyfer pobl sy'n cwhilio am noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth.

Monday, March 14, 2011

CWRDD TEULUOL


Cariad oedd testun yr Oedfa Deuluol bore Dydd Sul 13 Mawrth. Hyfryd oedd gweld y plant yn gwneud eu rhannau mor dda. Yn wir roedd nifer ohonynt yn cymryd rhannau blaenllaw am y tro cyntaf a phob un mor broffesiynol.
Hefyd cawsom y fraint o fod yn tystiolaethu bedydd (cewch fwy o wybodaeth am y bedydd wythnos nesaf).
Mrs Catrin Llywelyn, un o athrawon Ysgol Sul y Neuadd, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth.  
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid o de yn y Neuadd.
Yn yr hwyr aeth aelodau Gellimanwydd draw i Gyrddau Pregethu'r Gwynfryn ble roedd y Parchg Ddr Geraint Tudur yn pregethu.

 

Saturday, March 12, 2011

BANANA SPLIT ENFAWR MASNACH DEG

Fel mae llawer yn gwybod mae aelodau o Gellimanwydd yn hynod weithgar gyda Clwb Hwyl hwyr, sef clwb Cristnogol ar gyfer plant oedran ysgol sydd yn cwrdd yn Neuadd y capel pob Nos Wener.
Ar Nos Wener 11 Mawrth yn hytrach na cwrdd yn y neuadd roedd aelodau'r clwb yn helpu adeiladu , a bwyta! y Banana Split Masnach Deg enfawr yn Arcade Rhydaman. Dyma'r trydydd flwyddyn i ni gynnal y banana split ac roedd eleni yn well nag un y llynedd.
I ddechrau roedd angen gosod y byrddau ar hyd yr arcade, yna y cafnau. Roedd angen leinio'r cafn gyda ffoil aliminiwm.
Wedi hyn daeth pobl ifanc y capeli a clybiau ieuenctid cristnogol y dref i dorri'r bananas a'u gosod ar hyd y cafn. Y peth nesaf i wneud oedd rhoi'r hufen ia, hufen a saws siocled ar y banana split.
Erbyn 6.15 roedd popeth yn barod i'w fwyta. Cafodd pawb lwy ac ar ol i Paul Griffiths ddweud ewch dechreuodd pawb i fwyta.
Yn ogystal roedd stondin yn gwerthu nwyddau ar gyfer diwrnod Y Trwynau Coch sydd i'w gynnal nos Wener nesaf.