Wednesday, November 30, 2005

Noson y Gymdeithas



Y Gymdeithas
Ar Nos Fercher 30 Tachwedd cawsom noson o gymdeithasu yn wir ystyr y gair. Daeth criw da ynghyd i rannu disgled o de a mins peis.
Yna cawsom hanes y garol “Tawel Nos” gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees. Diolchwyd i Mr Rees ac i bawb oedd wedi paratoi gan Miss Rowena Fowler.
Dawel nos, sanctaidd yw’r nos,
Cwsg a gerdd waun a rhos,
Eto’n effro mae Joseff a Mair;
Faban annwyl ynghwsg yn y gwair,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd.

Monday, November 21, 2005

PARATOI AM YR ADFENT

Ar ddydd Sul 20 Tachwedd cawsom oedfaon i "Baratoi am yr Adfent". Mrs Bethan Thomas, ein hysgrifennyddes, oedd yn gyfrifol am drefnu'r oedfaon ac mae ein diolch yn fawr iddi.
Cawsom ein tywys a'n paratoi am ddyfodiad ein Gwaredwr drwy ddarlleniadau, myfyrdodau, gweddiau a chan. Diolch i bawb a gymerodd rhan.

Yn eiriau un o'r emynau a ganwyd yn ystod yr oedfa hwyrol.

Wele, cawsom y Meseia,
cyfaill gwerthfawroca' 'rioed;
darfu Moses a'r proffwydi
ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

Monday, November 14, 2005

MUDIAD CENHADOL Y CHWIORYDD

Ers dros hanner can mlynedd mae chwiorydd o eglwysi Annibynnol Rhydaman a’r cylch sef eglwysi Gellimanwydd a Gwynfryn Rhydaman, Moreia Ty-croes a Seion Llandybie wedi bod yn cwrdd i gynnal cyfarfodydd cenhadol. Prif bwrpas y mudiad yw codi arian at waith y Genhadaeth.
Eleni un o chwiorydd Gellimanwydd yw’r llywydd Edwina Leach.
Yn y llun gwelir Edwina yn ystod y cyfarfod blynyddol gyda swyddogion y Gymdeithas sef Rhianedd Jones ysgrifennydd , Megan Griffiths y trysorydd, Mary Thomas y cyn lywydd , Margaret Jones yr organydd a’r Parch Dyfrig Rees. Yn ystod mis Tachwedd cynhaliwyd cyfarfod yng Ngelliamnwydd gyda Mrs Val James o Gaerfyrddin yn annerch.
Mae’r Annibynwyr Cymraeg yn un o’r 31 enwad ar hyd a lled y byd sy’n aelodau o Gyngor y Genhadaeth Fyd –eang (CWM -Council for World Mission). Mae’r Cyngor yn rhannu ei adnoddau mewn syniadau, arian, pobl a gweddi.

CYMORTH CRISTNOGOL

Mae aelodau Gellimanwydd yn weithgar gyda gwaith Cymorth Cristnogol yn Rhydaman.Yn ddiweddar yng nghanol y glaw mawr cynhaliwyd Taith gerdded Noddedig o amgylch capeli ac eglwysi’r dre gan roi rhuban gwyn i’n hatgoffa am yr angen i ddileu tlodi byd.

MASNACH DEG

Rhydaman oedd tre Fasnach Deg gynta Cymru. Defnyddir nwyddau Masnach Deg yn helaeth yng Ngellimanwydd.
Cynhelir noson arbennig yn flynyddol o dan nawdd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman i hyrwyddo nwyddau Masnach Deg. Noson yw hon i annog y cyhoedd i ddod ag arfer prynu nwyddau Masnach Deg sydd ar gael yn y siopau lleol.
Cynhelir y noson Nos Fawrth Tachwedd 15 am 7 yn Neuadd Gellimanwydd . Ceir adloniant eleni gan blant Ysgol Parcyrhun.

Tuesday, November 08, 2005

Lluniau o'r Cwrdd Diolchgarwch

Plant yr Ysgol Sul





Cor Merched





Cor Dynion

Cwrdd Diolchgarwch

Ar Ddydd Sul, Hydref 2 cynhaliwyd ein Cyrddau Diolchgarwch.

"Coed" oedd thema oedfa ddiolchgarwch plant yr ysgol sul yn y bore. Cawsom ddarlun o wahanol goed sydd yn cael eu henwi yn y Beibl a sut mae pob un yn ddefnyddiol i ni.
Yn ystod y gwasanaeth cyflwynwyd bocsus esgidiau gyda anrhegion ar gyfer Operation Christmas Child. Mae dros 50 bocs wedi cyrraedd erbyn hyn. Bydd rhain yn cael eu dosbarthu drwy asiantaeth Y Christmas Purse.
Unwaith eto roedd pob un wedi cyflwyno yn raennus a cawsom wledd i'r llygaid a'r glust drwy wrando ar y plant yn cyflwyno neges diolchgarwch mewn darlleniadau, cyflwyniadau a chan.

Yn y nos cawsom Oedfa Ddiolchgarwch yr oedolion. Cyflwynwyd rhan o Bregeth fawr Martin Luther King drwy gyflwyniad sleidiau a sain fel rhan o'r oedfa. Roedd yn wir ymdeimlad o ddiolchgarwch yn y cyfarfod gyda'r oedolion yn cyflwyno ein diolch i Dduw drwy ddarlleniadau, cyflwyniadau a chan. Cawsom eitemau gan Gor y merched, Gor y Dynion a'r Cor cymysg.

Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac mae ei gariad hyd byth.
1 Cronicl 16:34

Y Gymdeithas

Ar ddydd Sadwrn Medi 3ydd aeth aelodau a ffrindiau’r Gymdeithas ar ein trip blynyddol. Sir Benfro oedd cyrchfan eleni. Hwlffordd oedd y stop cyntaf, ble cawsom awr fach ddifyr yn siopa yn y dref. Manteisiodd ambell un ar y cyfle i gael cwpaned fach o de.
Ymlaen i Abergwaun, ble cawsom ginio ac aethom i lawr i Wdig i weld y fferi sy’n mynd i’r Iwerddon. Wedyn i Ty Ddewi. Roedd yn brynhawn hyfryd a cawsom orig fach dawel naill ai’n eistedd yng ngerddi’r Eglwys Gadeiriol, neu’n crwydro hen lwybrau roedd Dewi ei hunan wedi ei droedio.
Cawsom gyfle i wneud ychydig o siopa cyn mynd yn ol i’r bws ar gyfer y siwrnai i Red Roses ar gyfer swper.
Unwaith eto mae’n diolch yn fawr i Marlene Moses am yr holl drefniadau. Mae Marlene wedi ymddeol o swydd Ysgrifenyddes y Gymdeithas eleni ac yn ystod y swper cawsom gyfle i ddiolch iddi am yr holl waith diflino. Yn y llun mae ein Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees yn cyflwyno rhodd i Marlene am ei gwaith