Monday, February 27, 2012

CWRDD TEULUOL

Bore Dydd Sul 26 Chwefror cawsom gwrdd Teuluol ar y thema - Y Creu. Rydym ni yn yr Ysgol Sul newydd ddechrau  dilyn cyfes newydd o’r enw Stori Duw. Mae’r gyfres yn un newydd sbon o werslyfrau sydd yn rhoi hanes taith fawr stori Duw. Bydd y gyfres yn galluogi ni y plant gael gwell dealltwriaeth o stori fawr Duw ond yn bwysicach down i adnabod yr Awdur, sef Duw  yn well. Darn cytnaf y stori yw Y Creu a dyna oedd thema ein Gwasanaeth a beth mae hyn yn ei ddweud am Dduw, amdanom ni ac am ein Byd.
Wedi'r oedfa hyfryd oedd gweld cymaint yn cymdeithasu yn y neuadd drwy rannu cwpanaid o de.

Monday, February 13, 2012

You've got the Time - Mae'r amser Gennych chi








Mae Crème eggs yn y siopau, hot cross buns ar werth am bris gostyngol, a’r daffodils mas. Ydy mae’n agosau at amser y Pasg unwaith eto.

Mae yna lawer yn cael ei ddweud am rhoi rhwybeth i fyny dros cyfnod y Grawys. Wel beth am gymryd rhywbeth ymlaen yn lle rhoi rhywbeth i fyny?

Rhywbeth pwerus iawn.


Mae Cymdeithas y Beibl wedi trefnu ein bod yn gallu llawrlwytho Copi awdio o’r Testament Newydd  a gwrando arno unrhwy bryd. Mae’n cymryd 28 munud y dydd, ac mewn 40 diwrnod byddwch wedi gwrando ar y Testament Newydd yn gyfan. Ewch i – You’ve Got The Time – a cewch ddewis o’i lawrlwytho i’ch cyfrifiadur neu iTunes. Hefyd cewch ddewis o’i lawrlwytho yn Gymraeg neu Saesneg
Pa well ffordd sydd yna o osod sialen i’ch hunan a gosod 28 munud o wrando i mewn i’ch diwrnod. Gallech wneud hyn pan yn cerdded y ci, yn mynd i siopa neu’r gym. I ddweud y gwir dwi am wrando yn y car ar y ffordd i’r gwaith.

Ewch i biblesociety.org.uk/YGTT a llawlwytho eich copi o’r Testament Newydd. Hefyd beth am ymuno yn y drafodaeth ar dudalen Facebook y Beibl Gymdeithas. 

Thursday, February 09, 2012

Bedydd - Efa Nel

Braf iawn oedd dathlu bedydd Efa Nel, merchg Rhys a Julie Thomas yng ngwasanaeth Bore Dydd Sul Ionawr 15fed  Dathlwyd yr achlysur gan y teulu ac aelodau’r capel gyda’r cefndryd ffyddlon – Mari, Dafydd, Dafydd Jones, Elen a Marged yn cadw cwmni i’r tri yn y sedd fawr.

Tuesday, February 07, 2012

TREFN CYFARFODYDD Y SUL

TREFN Y CYFARFODYDD Y SUL
Y Bore am 10.30: Gwasanaeth Addoli

Y Bore am 11.00 tan 11.45: Ysgol Sul y Plant

Yr Hwyr am 5.30: Gwasanaeth Addoli

Gwasanaeth y Cymundeb: Bore Sul cyntaf bob mis ac yn yr hwyr ambell fis.

.

CALENDR Y SULIAU 2013

MAWRTH 2013
3 - Y Gweinidog: Oedfa Gymun yn y bore. 
Hwyr: Ysgol Gan Undebol i'r Gymanfa Ganu yng Ngellimanwydd am 5.30 
10 - Cyfarfodydd Pregethu Gwynfryn/Gellimanwydd, Rhydaman yn y Gwynfryn am 10.30 y bore a 5.30 yr hwyr. Pregethwr Gwadd: Y Parchg Llewelyn Picton Jones, B.Sc, M.Ed, Pontarddulais
17 - Bore: oedfa ar y cyd gyda Moreia, Tycroes yng Ngellimanwydd am 10.30
Hwyr: Rihyrsal i'r Gymanfa yng Ngellimanwydd am 5.30
24- Y Gymanfa Ganu undebol yng Ngellimanwydd am 10.30 a 5.30
31- Y Gweinidog (Cymun Bore Sul Y Pasg)
.