Wednesday, February 24, 2010

Y GYMDEITHAS - DATHLU GWYL DEWI - COR PERSAIN

Nos Fercher 24 Chwefror Côr Persain oedd yn diddanu Cymdeithas Gellimanwydd yn ei dathliadau Gŵyl Dewi. Daeth aelodau’r Gymdeithas i Neuadd Gellimanwydd i ddathlu. Reodd pawb wedi dod a plat o fwyd i’w rannu a cawsom wledd drwy eu gosod allan mewn ffurf Bwffe.

Mr Brian Owen oedd Llywydd y noson a diolchodd i bawb oedd wedi paratoi ar ein cyfer. Yna cyflwynodd Brian yr adloniant am y noson sef Côr Persain dan arweiniad Anne Wheldon a David Rees yn cyfeilio. Côr merched lleol o ardal Tycroes a’r cylch yw Côr Persain. Cawsom noson hyfryd yn eu cwmni. Diolchwyd iddynt gan mr Arnallt James, Y Betws. Roedd pawb oedd yn bresennol yn datgan pa mor llwyddiannus oedd y noson.