Wednesday, April 16, 2014

Gymanfa Ganu Undebol


Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014 yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mr Steffan Huw Watkins, Y Fforest. Mae Steffan yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn ymchwilydd gyda Chwmni Teledu Boom Pictures. Mae’n adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel arweinydd Bois y Waun Ddyfal. Mae ganddo gysylltiadau agos ag ardal Glo Man ac mae’n ŵyr i Eilir a’r diweddar Eifion Watkins, Heol Pontarddulais, Tycroes. Yr  organyddes oedd Mr Gloria Lloyd.
Cawsom ddwy oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi a braf oedd cael bod yno yn gweld a gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.
Yna yn y nos daeth aelodau a ffrindiau  capeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd ar gyfer Gymanfa llwyddiannus dros ben .
 
yng ngeiriau un o'r emynau cafodd ei ganu yn y bore
Clywch y nodau llawen,
clywch y lleisiau byw
megis cor o glychau'n seinio mawl I Dduw.
Gwilym Herber Williams

Sunday, April 13, 2014

Cynhelir Cymanfa Ganu,
Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser 
 
 Dydd Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014
yng Nghapel Gellimanwydd.
 
Yr Arweinydd fydd Mr Steffan Huw Watkins, Y Fforest
a'r organyddes yw Mr Gloria Lloyd.
 
Gellimanwydd fydd yn llywyddu yn y bore
a Gosen yn yr hwyr.

Monday, April 07, 2014

DYMUNIADAU GORAU

Mae Y Parchg Dyfrig Rees Gweinidog Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes wedi derbyn galwad i wasanaethu ar Eglwys Tabernacl, Penybont ar Ogwr. Bydd Mr Rees yn dechrau yn Nhabernacl yn Mis Medi.
Mae Dyfrig wedi gwasanaethu arnom yng Ngellimanwydd ers 14 mlynedd ac mae’r capel  wedi llwyddo yn arbennig yn ystod ei Weinidogaeth. Dymuniad holl aelodau a ffrindiau Gellimanwydd  yw pob hapusrwydd a llwyddiant i Dyfrig, Mandy, Rhidian a Rhodri ym Mhenybont.
 
Bydd y capel yn gweld eu heisiau yn fawr.