Monday, December 28, 2009

PARTI NADOLIG YR YSGOL SUL


Yn hytrach na'r parti arferol yn Neuadd Gellimanwydd cawsom un gwahanol iawn eleni. Ar brynhawn dydd Mawrth 22 Rhagfyr aethom i Funsters, Capel Hendre ar gyfer parti Nadolig yr Ysgol Sul.

I ddechrau aeth y plant i chwarae ar y sglefren a'r pwll peli. Hefyd roedd lle chwarae arbennig i'r plant lleiaf. Yna aeth y plant i sglefrio ar y rinc ia sych.

Roedd Sion Corn yno mewn caban pren a cafodd pob plentyn anrheg ganddo.

Wedi'r chwarae cawsom de parti o selsig, chicken nuggets neu fish fingers a chips. Blasus iawn!!

Roedd pawb yn gytun ei bod yn ffordd arbennig llawn hwyl i ddathlu Parti Nadolig yr Ysgol Sul.



Monday, December 21, 2009

GWASANAETH NADOLIG YR YSGOL SUL

Nos Sul 20 Rhagfyr am 5.30 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant a'r bobl ifanc. Roedd cynulleidfa niferus o aelodau a ffrindiau wedi dod ynghyd i ymuno yn yr addoli a'r dathlu.
Dechreuwyd trwy weddi gan Nia Rees. Mari Llywelyn oedd Arweinydd y Gwasanaeth. Plant yr Hen Destament oedd y thema. Cawsom hanes Dafydd fugail, Isaac, Samuel, Namaan a'i wraig a'i forwyn. Dafydd Llywelyn, Rhys Jones, Harri Jones, William Jones, Sara Mai ac Elan Daniels oedd yn actio'r cymeriadau.

Cawsom unawd gan Sara Mai. Hefyd roedd parti canu'r plant bach yn diddanu.

Annie Jones, Emily Jones a Rhys Daniels oedd yn cyhoeddi'r emynau.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac yn enwedig i Miss Ruth Bevan am baratoi'r Gwasanaeth a dysgu'r plant.


Beth roddwn ni i drysor y crud,
blant pedwar ban y byd?
Canwn ein can, a rhoddwn bob pryd
foliant i Faban Mair.

GWASANAETH NADOLIG

Bore dydd Sul 20 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig ar y cyd rhwng eglwysi Gellwimanwydd a Moreia, Tycroes yng Nghapel Moreia am 10.30 y bore.
A hithau yn fore hyfryd o aeaf ond cythreulig hyfryd oedd gweld y capel yn llawn. Cawsom oedfa ein harwain at wir ystyr y Nadolig drwy weddi, emynau, adroddiadau, unawdau ac eitemau gan dri côr.
Yna cawsom fyfyrdod gan ein gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees gan ganolbwyntio ar y neges heddwch mae geni'rIesu yn dod i'r byd.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda aelodau ein chwaer eglwys drwy rannu cwpanaid o de, mins peis, sgons a bara brith.

Canys bachgen a aned i ni,, mab a roed i ni:
A bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe’i gelwir,
Cynghorwr Rhyfeddol Duw cadarn Tad bythol Tywysog heddychlon
Eseia 9:6

Tuesday, December 01, 2009

Cwis Beiblaidd

Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.

Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.

Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.

Y Rownd Derfynol
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd:
Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr)

Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd:
Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)

Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw. Daeth Tîm Uwchradd Clwb hwyl hwyr yn ail yn y rownd derfynol.


Cyflwynwyd gwobr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cwis gyda thlysau sialens a thlysau unigol i’r timoedd hynny wnaeth gyrraedd y brig.

Dymuna M.I.C. nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o’r capel a’r festri yn Y Priordy, Caerfyrddin dros ddwy noson ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd. Diolch hefyd i’r Cyngor Ysgolion Sul am y defnydd o’r bysyrs electronig ac i llogioffer.com am ddarparu’r meicroffonau a’r sytem sain. Y fenter nesaf a drefnir gan M.I.C bydd gwersyll i blant blynyddoedd 4-7 yn ystod hanner tymor, sef Chwefror 15fed - 17eg 2010. Am fanylion pellach neu ffurflen gofrestru cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049 neu e-bost mic@uwclub.net