Saturday, April 23, 2011

Y GYMANFA GANU UNDEBOL




Dydd Sul 17 Ebrill ar Sul y Blodau cynhaliwyd ein Cymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Gellimanwydd. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mr Eifion Thomas, Llanelli, Mae Mr Thomas yn adnabyddus drwy Gymru gyfan fel arweinydd Cor Meibion Llanelli ac yn denor dawnus. Cafodd Mr Thomas gefnogaeth broffesiynol medrus Mrs Gloria Lloyd yn ystod y ddwy oedfa.
Roedd Gymanfa'r plant yn ybore am 10.30 ac yna Gymanfa'r oedolion am 5.30 yr hwyr. Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Eifion Thomas ac roedd yntau yn  cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

Tuesday, April 12, 2011

Yr Ysgol Sul

Mae Plant yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi ar gyfer y Gymanfa Ganu Undebol  bore dydd Sul 17 Ebrill.

Hefyd Dydd Sul diwethaf roedd y dosbarth lleiaf wedi paratoi cardiau Pasg gan liwio lluniau o wyau pasg ac yna eu gludo ar garden.
Hyfryd oedd gweld y plant lleiaf yn gweithio mor ddiwyd ac yn mwynhau eu hunain yr un pryd.

CLWB HWYL HWYR

Daeth tymor Clwb Hwyl Hwyr i ben Nos Wener 9 Ebrill. Unwaith eto mae'r tymor wedi bod yn un llwyddiannus iawn gyda nifer o weithgareddau a nosweithiau gwerth chweil yn Neuadd Gellimanwydd ar Nos Wener.
Eleni dechreuwyd Clwb uwchradd a daeth criw da ynghyd ar Nos Wener cyntaf y mis am 6.30.

Mae'r Clwb Cynradd yn cwrdd am 5.0 pob Nos Wener adeg tymor ysgol o Medi hyd at ddiwedd tymor y Pasg.

I orffen y tymor cawsom barti ble dewisiodd pawb rhwng chicken nuggets neu sosej a chips.

Hoffai swyddogion y Clwb ddiolch i bawb sydd wedi mynycu'r clwb am eu cefnogaeth.

Cwrdd ar y cyd gyda Moreia Tycroes

Bore Dydd Sul 10 Ebrill cawsom gyfle i gyd addoli gyda'n chwaer eglwys, Moreia, Tycroes. Daeth aelodau Moreia atom i Gellimanwydd ar gyfer yr Oedfa foreuol. Ein Gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn arwain yr oedfa. 
Yn ol yr arfer adeg cwrdd ar y cyd cawsom gyfle i gymdeithasu wedi'r oedfa drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi yn y Neuadd.

Yna yn y nos cawsom Ymarfer olaf ar gyfer y Gymanfa Ganu Undebol sydd i'w chynnal yn Gellimanwydd Sul Nesaf, sef Sul y Blodau 17 Ebrill am 10.30 y bore a 5.30 yr hwyr.  Yr arweinydd Gwadd fydd Mr Eifion Thomas, Llanelli, sef arweinydd Cor meibion Llanelli.

Drws Agored

rhai o griw Drws Agored
Mae Drws Agored yn cyfarfod pob bore Dydd Iau yn Neuadd Gellimanwydd. Yno cewch gyfle i gyfarfod dros gwpanaid o de i gymdeithasu a chael clonc. Hefyd yn ystod y bore cawn fyfyrdod byr. Mae'r criw sy'n cwrdd ar fore Iau wedi bod yn hynod weithgar yn cyfrannu'n hael tuag at elusennau a mudiadau lleol. Mae'r rhoddion bore Iau yn casglu'n gyflym i fod yn £50 tuag at elusen lleol.

Wednesday, April 06, 2011

Gwefan Newydd Menter Ieuenctid Cristnogol

Mae’n bleser gan Fenter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) sir Gaerfyrddin eich hysbysu am fodolaeth ein gwefan newydd. Mae M.I.C.yn gweithio yn gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r bwriad o hyrwyddo gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid. Bydd y wefan newydd yn hwb i dystiolaeth M.I.C. ac yn gyfrwng mwy effeithiol o godi ymwybyddiaeth o’r hyn mae’r Fenter yn ceisio ei chyflawni. O hyn allan bydd gwybodaeth am bob digwyddiad a drefnir gan M.I.C. ar y wefan ynghyd a ffurflenni a thaflenni i’w lawr lwytho. Mae yno hefyd fap sy’n dangos enw a lleoliad pob eglwys sy’n perthyn i M.I.C. Carwn eich gwahodd felly i ymweld a’r wefan ar http://www.micsirgar.org/