Wednesday, October 20, 2010

OEDFA ARBENNIG

Dydd Sul 17 Hydref cawsom oedfa arbennig yn y prynhawn yng Nghapel y Gwynfryn, Rhydaman. Yn ymuno ag aelodau’r Gwynfryn oedd Gellimanwydd a Moreia, Tycroes.
Mr Nigel Davies, Swyddog Mudiad Ieuenctid Caerfyrddin, oedd yn anerch. Dechreuodd y Gweinidog Y Parch Emyr Wyn Evans drwy weddi a darllen o’r beibl. Yna daeth aelodau o Clwb Hwyl Hwyr ymlaen i gymryd at y rhannau arweiniol, sef Lowri Wyn, Lowri Harries, Mari Llywelyn, Dafydd Llywelyn ac Elan Daniels.
Defnyddiodd Nigel Davies amryw gyfrwng i gyflwyno hanes Saul mewn ffordd hynod ddiddorol oedd yn apelio at bob oedran.
Gorffenwyd drwy weddi gan Y Parchg Dyfrig Rees, Gweindog Gellimanwydd a Moreia.
Wedi’r oedfa trefnwyd cwpanaid o de yn festri’r Gwynfryn. Roedd yn oedfa arbennig ac yn wir fendith fod yn bresennol.

Thursday, October 14, 2010

Cadeirydd Panel Efengylu ac Ymestyn Allan

Dymunwn yn dda i’r Parch. Dyfrig Rees, Heol Pontarddulais, Tycroes ar ei apwyntiad yn gadeirydd ‘Panel Efengylu ac Ymestyn Allan’ Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Prif waith y panel fydd sefyll ac oedi uwchben y modd gorau o annog ac ysgogi’r eglwysi i waith efengylu. Aelodau eraill y panel yw: Ryan Thomas, Jill-Hailey Harries, Iwan Jenkins, Eleri Davies a Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr.

Monday, October 11, 2010

GWASANAETH DIOLCHGARWCH

Cynhaliwyd ein Gwasanaethau Diolchgarwch eleni ar Sul 10 Hydref. Tro yr Oedolion oedd hi yn Oedfa'r Hwyr. Cawsom gyfel i ddiolch i'n Harglwydd Iesu am yr holl mae yn ei wneud drosom drwy ddarlleniadau, adroddiadau, canu emynau ac eitemau gan dri cor, sef cor merched, cor dynion a'r cor cymysg.
Cawsom wir fendith ac roedd yn wasanaeth arbennig.
Mae ein diolch yn fawr i Mrs Gloria Lloyd am ddysgu ac arwain y tri cor ac hefyd i Mr Cyril Wilkins am ei chynorthwyo a chyfeilio ar gyfer y tri. Hefyd diolch i'n gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees am ein harwain yn ystod y gwasanaeth.


Sunday, October 10, 2010

GWASANAETH DIOLCHGARWCH YR YSGOL SUL

"Ffrindiau - Iesu'r Ffrind Gorau" oedd testun Gwasanaeth Diolchgarwch Plant yr ysgol Sul ar Fore Sul 10 Hydref. Dechreuwyd trwy weddi agoriadol ac yna ar ol canu'r emyn "Mae'r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain" daeth y plant ymlaen i gyflwyno eu bocsus esgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer Operation Christmas Child. Hyfryd oedd gweld y bwrdd yn llawn bocsus esgidiau, a rheiny wedi eu haddurno mor bert.
Cawsom gyflwyniadau, darlleniadau a chanu.


Diolch i Elan, Sara Mai, Mari, William, Harri, Dafydd, Rhys, Nia, Macy a Catrin am eu cyfraniadau arbennig. Roedd y gwasanaeth yn wir fendith ac yn dangos ein gwerthfawrogiad o'r ffrind gorau gall unrhyw un ei gael sef Iesu.

"O rwy'n caru'r Iesu
am iddo fy ngharu i."