Wednesday, June 23, 2010

Bwrlwm Bro Cylch Rhydaman

Plant ac athrawon Ysgolion Sul dalgylch Rhydaman wnaeth ymgasglu yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer Bwrlwm Bro o dan drefniant Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gaerfyrddin).
Yn ystod yr wythnosau diwethaf fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (sir Gâr) gynnal Bwrlwm Bro mewn gwahanol ardaloedd ar draws y sir. Trefnwyd sesiynau yn Llangadog, Rhydaman, Tymbl, Caerfyrddin, Llwynhendy ynghyd ag oedfa Cymanfa’r Sul yn Saron, ger Llangeler. Cynhaliwyd Bwrlwm ardal Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd ar Ddydd Sul 20 Mehefin. Prif bwrpas y sesiynau hyn oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Jona a’i anturiaethau yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am nodweddai cymeriad Duw fel un sy’n gyfiawn ac yn barnu drygioni, ond eto i gyd yn un sy’n llawn tosturi ac wrth ei fodd yn maddau i’r rhai sy’n galw ar ei enw. Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda`i gilydd mewn dathliad cyfoes o`r ffydd.