Saturday, March 31, 2012

CYMANFA GANU UNDEBOL

Cynhelir Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch ar Ddydd Sul Y Blodau, Ebrill 1af 2012 yng Nghapel Gellimanwydd.

Arweinydd eleni fydd Mr. Alun Tregelles Williams, Treforys.
 
Mrs Gloria Lloyd fydd yn canu'r organ, a'r Llywyddion fydd Cynrychiolydd Moreia yn y bore a Gwynfryn yn yr hwyr.

Bydd yr oedfaon am 10.30 a 5.30

Saturday, March 03, 2012

Banana Sblit Masnach Deg

 




I ddechrau dathliadau Pythefnos Masnach Deg yn Rhydaman eleni cawsom Banana Sblit enfawr yn yr Arcade, a hynny am y 4ydd flwyddyn yn olynnol. Roedd ein Banana Sblit Masnach Deg yn lwyddiant ysgubol.
Daeth tyrfa fawr i'r Arcade yn Rhydaman ar Nos Wener 2 Mawrth i ymuno yn ein dathlu.


Roedd plant Ysgol Sul Gellimanwydd a Chlwb Hwyl Hwyr yn chwarae rhan flaenllaw wrth adeiladu'r banana sblit. Roeddent yn torri bananas, dosbarthu'r hufen ia a chwistrellu'r hufen


Fel y gwelwch roedd un eleni yn 80 troedfedd (25 metr) o dop yr arcade i'r gwaelod i gyd wedi ei orchuddio gyda bananas masnach deg, hufen ia, hufen a saws siocled ac yna ei fwyta mewn tua 10 munud!!
 

CYMANFA GANU

Bydd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul Y Blodau, Ebrill 1af 2012 yng Nghapel Gellimanwydd.

Arweinydd eleni fydd Mr. Alun Tregelles Williams, Treforys.

Mrs Gloria Lloyd fydd yn canu'r organ, a'r Llywyddion fydd Cynrychiolydd Moreia yn y bore a Gwynfryn yn yr hwyr.

Bydd yr oedfaon am 10.30 a 5.30

Thursday, March 01, 2012

Dathlu Gŵyl Ddewi – Y Gymdeithas


Nos Fercher 29 Chwefror cafodd aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd gyfle i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Neuadd.
I ddechrau cawsom glonc tra'n bwyta cawl wedi ei baratoi ar ein cyfer. Y Gwr Gwadd oedd y Prifardd Robat Powell, Abertawe.

Hyfryd oedd rhannu yn y dathliadau a gweld y neuadd wedi haddurno'n hardd at yr achlysur. Diolch i bawb am eu paratoadau i wneud y noson unwaith eto'n lwyddiant arbennig.