Sunday, June 26, 2011

Chwiorydd Annibynwyr y De

 Mrs. Carys Williams, Penarth yn cyflwyno Beibl y Dalaith i Mrs. Bethan Thomas, Gellimanwydd

Cynhaliodd Adran Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith De Cymru, eu cyfarfod blynyddol eleni yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman a hynny am y tro cyntaf. Braf oedd gweld capel llawn gyda chwiorydd o’r gwahanol ardaloedd yn y De, o’r Barri i Borth Tywyn, yn bresennol.
Llywyddwyd y rhan gyntaf o’r oedfa gan Carys Williams, Penarth (gweddw’r Parch. Meurwyn Williams) ac fe ddarllenwyd o’r Ysgrythur gan Pat Thomas ac Iris Cobbe gyda Gill Lloyd, Penarth yn arwain mewn gweddi. Yn ystod y gwasanaeth urddwyd Bethan Thomas, Gellimanwydd yn lywydd. Bu Bethan yn ysgrifennydd yr adran am dros ddegawd yn y nawdegau.

‘Bara – Y Gwir Fara’ oedd thema’r gwasanaeth. Cafwyd cyflwyniad o ‘Bara Angylion Duw’ gan barti o chwiorydd o gapeli’r Gwynfryn a Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes. Hilary Davies oedd wedi paratoi’r parti a Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ ac yn ystod y gwasanaeth. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig a gofir am amser maith gan Hazel Charles Evans, Llandybïe.
Mi roedd merched Gellimanwydd wedi paratoi’n helaeth gogyfer a’r holl chwiorydd oedd yn bresennol. Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a sgwrsio dros baned a lluniaeth yn Neuadd Gellimanwydd wedi’r oedfa.

Wednesday, June 22, 2011

Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De



Ar Fore Sul 19 Mehefin cyflwynwyd rhodd fechan i Mrs Bethan Thomas, ein Hysgrifennydd, yn arwydd o'n llongyfarchaidau iddi ar gael ei hurddo yn Llywydd Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De.


Bydd Bethan yn cael ei hurddo yn Llywydd Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De, yn ystod  Cyfarfod Blynyddol y Mudiad sydd i'w gynnal yng Ngellimanwydd ar Nos Fawrth 21 Mehefin.

Sunday, June 19, 2011

TRIP Y CAPEL 2011


Ar dydd Sadwrn 18 Mehefin aeth llond bws o aelodau gellimanwydd i Ddinbych y Pysgod. Rhaid dweud bod pawb yn ofudus am 9.30 pan gyrhaeddodd y bws oherwydd roedd yn arllwys y glaw. Yn wir erbyn cyrraedd Cross Hands roedd y trefnwyr yn meddwl am "Plan B" oherwydd roedd hyd yn oed windscreen wipers y bws yn cael trafferth i ymdopi.
Ond erbyn cyrraedd Cilgeti roedd y tywydd yn gwella a cawsom dywydd bendigedig.
Yn ol yr arfer wedi cyrraedd aeth rhai am frecwast mawr, neu cwpanaid o goffi o leiaf. Yna i lawr i'r traeth. Roedd yn gysgodol ar y traeth a daeth yr haul allan i'n croesawu. Newidiodd y plant i mewn i ddillad nofio a treuliwyd y diwrnod cyfan yn chwarae ar y traeth. Manteisiodd rhai ar y cyfle i grwydro'r dref a gweud ychydig o siopa
Erbyn 4.00 o'r gloch roedd pawb yn barod am "fish & chips" ac i fyny i'r dref a ni i gael rhwybeth i fwyta cyn dychwelyd adref wedi cael diwrnod bendigedig a hynny yn yr haul er waethaf rhagolygon yn y bore.

Hyfryd oedd cael cymdeithasu yn un teulu mawr. 

Wednesday, June 01, 2011

TRIP Y CAPEL

Mae Trip y Capel eleni yn mynd i Ddinbych y Pysgod ar Ddydd Sadwrn 18 Mehefin.  Cofiwch ymuno a ni yn  un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Bydd  y bws yn gadael y Capel am 9.30 a dychwelyd o Ddinbych y Pysgod am 5.30. Mae plant yn cael mynd am ddim a pris i oedolyn fydd £12.

Croeso cynnes i bawb. Cysylltwch ag Edwyn os hoffech ddod. 01269 845435