Sunday, March 29, 2015

CYMANFA GANU




 
Cynhaliwyd ein Cymanfa ganu Undebol ar ddydd Sul y Blodau, 29 Mawrth, 2015 yng Nghapel Gellimanwydd.
 
Yr Arweinydd oedd Mr Allan Fewster, Llangennech gyda Mrs  Gloria Lloyd yn cyfeilio.
 
Capel Hendre oed d yn llywyddu yn y bore a Seion yn yr hwyr.
 
 
 
 

Sunday, March 22, 2015

Mudiad Cenhadol y Chwiorydd



O'r chwith i'r dde: Y Parch. Emyr Gwyn Evans, Mrs. Sian Jones a Mrs. Marjorie Rogers (Y Gwynfryn),
Mrs. Carol Ann Lewis (Moreia) a'r Parch. Ryan Thomas

Mae yna fudiad Cenhadol gan chwiorydd capeli Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes ers 1950. Bryd hynny mi roedd Seion, Llandybïe hefyd yn rhan o’r cylch. Yn ystod y 65 mlynedd mae’r adran wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau tuag at y gwaith Cenhadol gan fod yr arian a gesglir i gyd – talu am y te, casgliad, bore coffi ac ati – yn mynd at y gwaith cenhadol. Tramor fu’r alwad yn y blynyddoedd a fu ond rydym bellach yn rhoi cyfraniad at MIC sef Mudiad Ieuenctid Cristnogol ein hardal. Bu i nifer o’n cenhadon ymweld â’r adran ac fe fu y Parchn. R. E. Edwards, Ieuan S. Jones a Ioan Wyn Gruffydd yn gefn mawr i’r cylch.

            Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cael siaradwyr diddorol i’n hannerch ac hefyd cyfarfodydd rydym ni ein hunain yn eu trefnu megis gwasanaeth Nadolig, cwrdd gweddi ac ati. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ddechrau Mawrth. Bryd hynny trosglwyddir y llywyddiaeth i chwiorydd y gwahanol eglwysi. Bellach fe rhennir y gwaith rhwng gwragedd yr eglwysi. Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni yn Y Gwynfryn, Rhydaman gyda’r Parch. Emyr Gwyn Evans yn annerch a gweinyddi’r cymun gyda’r Parch. Ryan Thomas yn cynorthwyo wrth yr organ. Eleni mi roedd Mrs. Carol Ann Lewis ar ran chwiorydd Moreia yn cyflwyno Beibl y Mudiad i Mrs. Marjorie Rogers a’i derbyniodd ar ran chwiorydd y Gwynfryn, Rhydaman.

            Rydym hefyd fel adran yn ffyddlon i Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog a Thalaith y De o Fudiad Chwiorydd yr Annibynwyr.

Tuesday, March 03, 2015

Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu


Mi roedd Sul, Mawrth 1af yn Sul o ddathlu mawr yng nghapeli Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes oherwydd hwn oedd y diwrnod y dechreuodd y Parch. Ryan Thomas, Brynaman ei weinidogaeth yn ein mysg.

            Roedd yr oedfa foreol yng Ngellimanwydd.  Mi roedd yn braf gweld y capel yn llawn o blant, teuluoedd ifanc, pobl canol oed a henoed a phawb yn hapus i ddathlu gŵyl ein nawddsant a chyfnod newydd yn ein hanes fel eglwys. Gan ei bod yn wasanaeth teuluol y plant a’r ieuenctid a gymerodd at yr oedfa. Rydym yn ymfalchio fod gyda ni gymaint o blant yn awyddus a pharod i gymeryd rhan ac am rhieni sydd mor barod i gynorthwyo ymhob dull a modd.
 



Rhai o blant niferus Gellimanwydd

            Yn ystod yr oedfa cafwyd gair byr o groeso i’r gweinidog newydd gan Bethan, Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys ac yna cafwyd neges pwrpasol i’r plant gan y gweinidog newydd. Gweinyddwyd y Cymun ar ddiwedd yr oedfa gan y Parch. Ryan Thomas. Mrs. Gloria Lloyd oedd wrth yr organ. Mi roedd y capel a’r neuadd wedi eu haddurno’n hardd â chennin pedr.

            Wedi’r gwasanaeth aeth pawb i fwynhau melysfwydydd Cymreig yn Neuadd Gellimanwydd ac yno fe gafwyd cyfle i ni gwrdd â’r Parch. Ryan Thomas.

 
 Yn y prynhawn tro eglwys Moreia, Tycroes oedd hi i ddathlu. Fe ddaeth cynulleidfa niferus ynghyd i Oedfa Gymun. Croesawyd y gweinidog newydd gan Elfryn Thomas, Ysgrifennydd yr Eglwys ac fe gynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Wynona Anthony.

Roedd y chwiorydd wedi paratoi yn helaeth ar ein cyfer ac fe gafwyd gwledd o fwyd yn y festri gyda cyfle i bawb gwrdd â’r gweinidog newydd. Y chwiorydd hefyd a fu yn gyfrifol am addurno’r capel a’r festri mor hardd gyda daffodiliau.
 
 
Y Parchg Ryan Thomas gyda rhai o aelodau gweithgar Eglwys Moreia, Tycroes



Ym mis Medi fe fydd Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman yn ymuno â’r ofalaeth. Hwn fydd y tro cyntaf i’r dair eglwys, y fam a’r ddwy ferch, fod o dan arweiniad yr un gweinidog. Mae’r dair eglwys, er hynny, wedi cyd-weithio â’i gilydd ar hyd y blynyddoedd drwy’r Gymanfa Ganu a Mudiad Cenhadol y Chwiorydd.

Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd yn ein hanes a boed i Dduw ein harwain i’r dyfodol yn llawn hyder a ffydd.

Bethan Thomas, Ysgrifennydd yr Ofalaeth