Monday, December 28, 2009

PARTI NADOLIG YR YSGOL SUL


Yn hytrach na'r parti arferol yn Neuadd Gellimanwydd cawsom un gwahanol iawn eleni. Ar brynhawn dydd Mawrth 22 Rhagfyr aethom i Funsters, Capel Hendre ar gyfer parti Nadolig yr Ysgol Sul.

I ddechrau aeth y plant i chwarae ar y sglefren a'r pwll peli. Hefyd roedd lle chwarae arbennig i'r plant lleiaf. Yna aeth y plant i sglefrio ar y rinc ia sych.

Roedd Sion Corn yno mewn caban pren a cafodd pob plentyn anrheg ganddo.

Wedi'r chwarae cawsom de parti o selsig, chicken nuggets neu fish fingers a chips. Blasus iawn!!

Roedd pawb yn gytun ei bod yn ffordd arbennig llawn hwyl i ddathlu Parti Nadolig yr Ysgol Sul.



Monday, December 21, 2009

GWASANAETH NADOLIG YR YSGOL SUL

Nos Sul 20 Rhagfyr am 5.30 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant a'r bobl ifanc. Roedd cynulleidfa niferus o aelodau a ffrindiau wedi dod ynghyd i ymuno yn yr addoli a'r dathlu.
Dechreuwyd trwy weddi gan Nia Rees. Mari Llywelyn oedd Arweinydd y Gwasanaeth. Plant yr Hen Destament oedd y thema. Cawsom hanes Dafydd fugail, Isaac, Samuel, Namaan a'i wraig a'i forwyn. Dafydd Llywelyn, Rhys Jones, Harri Jones, William Jones, Sara Mai ac Elan Daniels oedd yn actio'r cymeriadau.

Cawsom unawd gan Sara Mai. Hefyd roedd parti canu'r plant bach yn diddanu.

Annie Jones, Emily Jones a Rhys Daniels oedd yn cyhoeddi'r emynau.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac yn enwedig i Miss Ruth Bevan am baratoi'r Gwasanaeth a dysgu'r plant.


Beth roddwn ni i drysor y crud,
blant pedwar ban y byd?
Canwn ein can, a rhoddwn bob pryd
foliant i Faban Mair.

GWASANAETH NADOLIG

Bore dydd Sul 20 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig ar y cyd rhwng eglwysi Gellwimanwydd a Moreia, Tycroes yng Nghapel Moreia am 10.30 y bore.
A hithau yn fore hyfryd o aeaf ond cythreulig hyfryd oedd gweld y capel yn llawn. Cawsom oedfa ein harwain at wir ystyr y Nadolig drwy weddi, emynau, adroddiadau, unawdau ac eitemau gan dri côr.
Yna cawsom fyfyrdod gan ein gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees gan ganolbwyntio ar y neges heddwch mae geni'rIesu yn dod i'r byd.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda aelodau ein chwaer eglwys drwy rannu cwpanaid o de, mins peis, sgons a bara brith.

Canys bachgen a aned i ni,, mab a roed i ni:
A bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe’i gelwir,
Cynghorwr Rhyfeddol Duw cadarn Tad bythol Tywysog heddychlon
Eseia 9:6

Tuesday, December 01, 2009

Cwis Beiblaidd

Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.

Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.

Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.

Y Rownd Derfynol
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd:
Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr)

Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd:
Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)

Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw. Daeth Tîm Uwchradd Clwb hwyl hwyr yn ail yn y rownd derfynol.


Cyflwynwyd gwobr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cwis gyda thlysau sialens a thlysau unigol i’r timoedd hynny wnaeth gyrraedd y brig.

Dymuna M.I.C. nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o’r capel a’r festri yn Y Priordy, Caerfyrddin dros ddwy noson ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd. Diolch hefyd i’r Cyngor Ysgolion Sul am y defnydd o’r bysyrs electronig ac i llogioffer.com am ddarparu’r meicroffonau a’r sytem sain. Y fenter nesaf a drefnir gan M.I.C bydd gwersyll i blant blynyddoedd 4-7 yn ystod hanner tymor, sef Chwefror 15fed - 17eg 2010. Am fanylion pellach neu ffurflen gofrestru cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049 neu e-bost mic@uwclub.net

Sunday, November 15, 2009

BEDYDD


Yn yr oedfa foreol Dydd Sul 15 Tachwedd bedyddwyd Griffyn Lloyd Lewis, mab Fiona a Jeremy Lewis a wyr Mairwen a Wyn Lloyd, Maesycware, Y Betws. Mae Fiona yn ferch i Mairwen a Wyn.
Mae'r teulu yn byw yn Wellington, Seland Newydd. Hyfryd oedd cael gweld Griff yn cael ei fedyddio yng Ngellimanwydd cyn i'r teulu ddychwelyd yn ol i Seland Newydd.

"Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid a byth i mewn iddi. A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bedyddio, gan roi ei ddwylo arnynt."



Marc 10:15-16

Cymorth Cristnogol


Cynhaliwyd cwis blynyddol Cymroth Cristnogol tref Rhydaman ar Nos Wener 13 Tachwedd yn Neuadd Gellimanwydd. Er gwaethaf y tywydd stormus y tu fas daeth chwech Capel ac Eglwys i gystadlu.
Roedd nwyddau Traidcraft a cardiau Nadolig Cymorth Cristnogol ar werth.
Edwyn Williams oedd y cwisfeistr a cafwyd noson llawn hwyl yn ceisio ateb yr amryw gwestiynau.
Tim Gellimanwydd oedd yn fuddugol, sef y Parchg Dyfrig Rees, Mandy Rees, Mairwen Lloyd, Gwenfron Lewis ac Arnallt James. Llongyfarchiadau iddynt.

Diolch i bawb am drefnu noson hwylus arall yng nghalendr gweithgareddau Cymorth Cristnogol yn y dref. Wedi'r cystadlu cawsom gyfel i sgwrsio dros gwpanaid o de a bisgedi.

Tuesday, November 10, 2009

CYRDDAU PREGETHU

Dydd Sul 8 Tachwedd cynhaliwyd ein cyrddau Pregethu pan ddaeth y Parchg Ieuan Davies B.A., B.D., Waunarlwydd atom.
Cawsom wir fendith yn ei gwmni yn ein cwrdd boreol ac oedfa'r nos.
Mae Y Parchg Ieuan Davies yn enedigol o ardal y Tymbl. Cafodd ei sefydlu'n Weinidog yn 1965 mae wedi bod yn gweinidogaethu mewn sawl capel gan gynnwys Caernarfon a Llundain.
Yn ystod oedfa'r bore cawsom stori i'r plant am wal yn ei dy ble mae marciau arni yn cofnodi taldra'r wyrion. Mae un marc arni yn cofnodi taldra tedi. Esboniodd y Parchg Ieuan Davies i'r plant mai trwy ddod i'r ysgol Sul eu bod nid yn unig yn tyfu mewn taldra ond hefyd eu bod yn tyfu mewn daioni. Yna cafodd pawb i ganu'r geiriau
"Dysg i'm dyfu mewn daioni.
Fel y tyfaist Ti
Buost Ti'n blentyn heini
Fel myfi
O na bawn ni fel Efe."

CYMDEITHAS - DRAMA


Nos Fercher 4 Tachwedd daeth Cwmni Drama y Gwter Fawr atom i'r Gymdeithas i gyflwyno dwy ddrama sef "Corfu" a "Domino".
Braf oedd gweld y neuadd yn gyfforddus lawn. Cawsom noson bleserus dros ben gyda dwy ddram llawn hiwmor ac ambell i gyffyrddiad teimladwy iawn. Mel Morgans oedd cyfarwyddwr y ddrama gyntaf , sef Corfu ac Anne Walters yr ail sef Domino.
Hanes gwr a gwriag yn mynd ar wyliau oedd y gyntaf, gyda'r gwas yn chwarae rhan allweddol. Yn yr ail cawsom hanes noson ymarfer domino rhwng pedair wraig weddw oedd yn aelodau o'r gangen leol o Ferched y Wawr.
Diolch i bawb am drefnu noson lwyddiannus arall yng nghalendr Cymdeithas Gellimanwydd.




Saturday, October 17, 2009

GWASANAETH DIOLCHGARWCH

Cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch Gellimanwydd ar ddydd Sul Hydref 11.
Eleni roedd dwy o ffenestri’r capel wedi eu haddurno gan y plant er mwyn dangos beth hoffent ddiolch i Dduw amdano. A hithau yn ddiwrnod cenedlaethol i ddathlu bywyd T.Llew Jones ar 9 Hydref addas iawn oedd addurno un o’r ffenestri gyda ei waith.Hefyd mae dau o wyrion T. Llew Jones yn aelodau o ysgol Sul y Neuadd, sef Dafydd a Mari Llywelyn.
Roedd yr ail ffenest yn cynnwys eitemau megis bat criced, pel rygbi, Nintendo Wii, llun o cwningen a nifer o bethau eraill.
Cawsom wasanaeth hyfryd yn y bore dan arweiniad plant yr Ysgol Sul. Wedi’r oedfa aethom i gyd i’r neuadd i rannu cwpanaid o de a bisgedi. Yn y nos cawsom Oedfa Ddiolgarwch yr oedolion. Unwaith eto hyfrydwch oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa. Cawsom eitemau gan y côr merched, côr dynion a’r côr cymysg, a diolch i Mrs Gloria Lloyd am ei holl waith yn hyfforddi’r partion a Mr Cyril Wilkins yn ei chynorthwyo. Yn ogystal cawsom ynghyd a darlleniadau ac adroddiadau ac anerchiad pwrpasol gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.

Friday, October 09, 2009

Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman

Nos Lun 5 Hydref roedd Y Parchg Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn annerch Cyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd.
Testun ei gyflwyniad oedd “Bywiogi Pethau”. Cawsom araith bwrpasol a diddorol ganddo yn rhoi llawer o syniadau ymarferol ar sut y gallwn ni wneud y newid sydd ei angen yn ein capeli.
Pwysleisiodd Y Parchg Geraint Tudur mai eisiau i ni yr aelodau i fod yn ymarferol a gweithgar yw’r ateb. Mae angen cynllun cyraeddadwy, mesuradwy a realistig.
Diolchwyd iddo ar ran yr Eglwysi Rhyddion gan Mrs Margaret Jones, Y Gwynfryn.

Friday, October 02, 2009

SWPER DIOLCHGARWCH

Nos Fercher 30 Medi cynhaliwyd Swper Diolchgarwch y Gymdeithas. Y gwesteion oedd Y Canon a Mrs John Gravell. Llywydd y noson oedd Miss Rowena Fowler.
Braf oedd gweld cymaint wedi dod i fwynhau’r wledd. Roedd y byrddau wedi eu addurno gyda blodau hyfryd a cawsom fwyd heb ei ail wedi ei baratoi gan chwiorydd y Gymdeithas. Wedi’r prif gwrs o ham tatws a salad cawsom ddarten afal a hufen ac yna chwpanaid o de.
Roedd pawb wrth eu bodd yn mwynhau’r bwyd a’r gymdeithas felus.

Cawsom araith hynod bleserus a phwrpasol gan y Canon John Gravell am y cynaeafau a fu a’i atgofion fel plentyn adeg y cynhaeaf. Yn wir roedd yn dod ag atgofion melus i bob un ohonom oedd yn bresennol.
Diolchwyd iddo gan Mrs Margaret Reagan

SWPER DIOLCHGARWCH

Cawsom noson hyfryd yng nghwmni Y canon John Gravell yn dathlu ein swper diolchgarwch.




SWPER DIOLCHGARWCH

Cawsom noson hyfryd yng nghwmi'r Canon John Gravell i ddathlu ein swper diolchgarwch.

Sunday, September 27, 2009

DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH

Mr Norman Richards, Llywydd Pwyllgor yr Ofalaeth ynghyd a'r Parchg Dyfrig Rees a Mrs Mandy Rees a'u meibion, Rhodri a Rheinallt

Ar Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.

Y peth anodda oedd cadw'r gyfrinach oddi wrth y Gweinidog. Tybiau e' mai gwasanaeth ar y cyd oedd hwn, fel y cawn o bryd i'w gilydd gyda phaned yn dilyn yr oedfa. Ond roedd chwiorydd Moreia a Gellimanwydd wedi trefnu lluniaeth ysgafn ac roedd Mrs Mandy Rees, gwraig y Gweinidog, wedi trefnu cacen arbennig ar gyfer yr achlysur.
Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr achlysur. Cawsom oedfa fendthiol gan ein Gweinidog.
Wedi'r oedfa aethom i gyd i'r Neuadd ble roedd gwledd yn ein haros. Cafodd y bwyd ei weini gan chwiorydd Moreia a Gellimanwydd.

Cyflwynodd Mr Norman Richards, Llywydd yr Ofalaeth, rodd ar ran y ddwy eglwys i'n Gweinidog fel arwydd o'n gwerthfawrogiad o'r gwasanaeth mae'r Parchg Dyfrig Rees wedi ei roi i'r weinidogaeth a'r holl mae'n ei wneud i ni yng Ngellimanwydd a Moreia.
Yna aeth Mr Rees a'i wraig Mrs Mandy Rees i'r blaen ar gyfer torri'r gacen hyfryd.

Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.


Dymunwn yn dda iddo a'i deulu, a gweddiwn y caiff flynyddoedd lawer o iechyd a nerth i wasanaethu'r Arglwydd a pleser arbennig oedd i bawb oedd yn bresennol gael ymuno yn y dathliadau.

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD

Mae tymor newydd y Gymdeithas yn dechrau Nos Fercher 30 Medi gyda Swper Diolchgarwch Y gwesteion fydd y Canon a Mrs John Gravell. Pris y bwyd fydd £3.00
Croeso cynnes i bawb.

Yna bydd y tymor yn parhau gyda'r nosweithiau canlynol:

28 Hydref
Taith drwy Ganeuon Ffydd o dan arweiniad y Gweinidog.

25 Tachwedd
Noson gyda Band Pres Iau Rhydaman


27 Ionawr
Noson Gwis o dan ofal Mr. Edwyn Williams


24 Chwefror
Dathlu Gŵyl Ddewi, Gwesteion - Côr Persain. Pris y bwyd £3.00


A byddwn yn cloi ein tymor drwy gynnal Cygnerdd mawreddog yn Neuadd Gellimanwydd ar 31 Mawrth.

Tuesday, September 08, 2009

TRIP Y GYMDEITHAS - TREFYNWY

Dydd Sadwrn 3 Medi aeth llond bws o aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd ar ein trip blynyddol.
Fourteen Locks ger Rogerstone, Casnewydd, oedd y gyrchfan gyntaf ble cawsom saib fechan am gwpanaid o de a sgon. Cafodd ambell un frechdan cig moch bendigedig. Canolfan Treftadaeth yw Fourteen Locks, ble mae, fel yr enw yn dweud, 14 o lifdorau ar y system gamlas Trefynwy. Yn wir mae'n un o ryfeddodau system gamlas Prydain.

Yna ymlaen i Abaty Tyndyrn, sef yr Abaty Cisterniaidd yn Nyffryn Gwy. Cafodd ei sefydlu ar 9 Mai 1131 gan Walter de Clare, arglwydd Casgwent.

Trefynwy oedd ein prif gyrchaf a cawsom ychydig oriau yno i gael tamaid bach o ginio, crwydro'r strydoedd a gwneud ychydig o "retail therapy".

Ymlaen wedyn i Brynbuga (Usk) am swper bendigedig.

Diolch yn fawr iawn i Mrs Mandy Rees ein hysgrifenyddes a Marion Morgan ein trysorydd ynghyd a'n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees am yr holl drefniadau.

Tuesday, August 25, 2009

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)

Mae Menter newydd sy’n darparu ar gyfer plant ac ieuenctid wedi eu sefydlu gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin. O fis Medi ymlaen bydd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) yn trefnu gweithgareddau ac yn darparu adnoddau a chefnogaeth i eglwysi yn eu cenhadaeth ymhlith plant a phobl ifanc. Y person sydd wedi ei benodi i arwain y gwaith yw Mr Nigel Davies.

Bu Nigel yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol ym Mhorth Tywyn am 5 mlynedd cyn iddo symud i weithio gyda Chyngor Ysgolion Sul Cymru, a chofiwn ei waith arbennig yno am 17 mlynedd. Am y tair blynedd diwethaf bu’n swyddog plant/ieuenctid gyda Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Bu’n fawr ei barch gyda’r Fenter ac mae wedi ymdrechu, gyda llwyddiant clodwiw, i godi proffil yr Ysgol Sul, ac wedi llafurio yn ddi-baid i rannu’r Newyddion Da mewn amrywiol ffyrdd ymhlith plant ac ieuenctid. Y mae rhestr yr hyn a gyflawnwyd yn rhy fawr i`w cynnwys yma ond wrth i’r gwaith ymestyn ar draws sir Gaerfyrddin bydd cyfle i bob eglwys ac enwad elwa o’r hyn fydd gan M.I.C. i’w gynnig.

Prif nod M.I.C. bydd hybu gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid y sir a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes. Bydd amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro yn cael eu trefnu gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol fel cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd a mabolgampau yn ogystal â digwyddiadau fel Bwrlwm Bro, gwersylloedd ac oedfaon cyfoes fydd yn cymell yr ifanc i ystyried galwad Duw ar eu bywyd. Bydd y Fenter yn ymdrechu i gyfleu i’r ifanc y gred bod Cristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig mynychu oedfaon ar y Sul.
Mae gwahoddiad agored i gapel / eglwys o unrhyw enwad o fewn sir Gaerfyrddin i berthyn i’r Fenter. Bydd yr eglwysi hynny sy’n cofrestru yn cael gwybodaeth gyson am bob digwyddiad fydd yn cael ei drefnu a byddant yn medru elwa o gefnogaeth bersonol yn eu sefyllfa leol. Mewn amgylchiadau ble mae yna eglwysi heb blant nac ieuenctid, mae gwahoddiad iddynt ymuno â M.I.C. fel aelodau cyswllt. Byddant yn derbyn Llythyr Newyddion / Gweddi tair gwaith y flwyddyn yn cynnwys lluniau a chrynodeb o’r hyn sydd wedi cymryd lle a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod gyda chyfle i weddïo dros y gweithgareddau hynny.

Mae pwyllgor llywio cydenwadol wedi ei ffurfio i gefnogi’r gwaith. Y cadeirydd yw Y Parchg Tom Defis (Cymorth Cristnogol) a’r ysgrifennydd yw Y Parchg Eurof Richards (Pont-henri). Mewn dyddiau pan fod Cristnogaeth ar drai yn ein gwlad a nifer yr ieuenctid sy’n mynychu capel ac eglwys yn brin, dyma gyfle delfrydol i eglwysi i ymateb i’r her sy’n eu hwynebu trwy fuddsoddi mewn cenhadaeth gartref. Mae M.I.C. yn bodoli er lles plant ac ieuenctid sir Gâr ac i gydweithio gyda’r eglwysi er mwyn i bobl ifanc yr oes hon gael y cyfle i glywed ac i ymateb i wahoddiad efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

Wednesday, July 15, 2009

PARTI DATHLU MENTER CYD-ENWADOL GOGLEDD MYRDDIN

Mr a Mrs Nigel Davies, yn derbyn rhodd ar ran aelodau Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin yn gydnabyddiaeth am ei waith fel Swyddog Ieuenctid dros y dair blynedd diwethaf. Yn y llun hefyd mae cynrychiolwyr o'r ysgolion Sul a Swyddogion y Fenter.

Roedd Neuadd Gellimanwydd yn llawn nos Fercher 15 Gorffennaf ar gyfer Parti Dathlu Menter Cyd -enwadol Gogledd Myrddin. Cyfle i ddathlu tair mlynedd o waith diflino Mr Nigel Davies, Swyddog Ieuenctid y Fenter oedd y noson yn bennaf. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn.
Cawsom air o groeso gan Gadeirydd y Fenter, sef Mr Mel Morgans. Yna aeth pawb at y byrddau i ddewis eu bwyd allan o'r bwffe arbennig oedd wedi ei baratoi gan gegin fach y Wlad.
Wedi i bawb lewni eu boliau a chael cyfle i gymdeithasu cawsom ein diddannu, yn blant, ieuenctid ac oedolion gan Rosfa'r Consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn, Gweinidog Seion Newydd, Treforus.
Roedd Rosfa ar ei orau yn cael ymateb arbennig gan y plant. Hyfryd oedd gweld a chlywed eu gwerthfawrogiad o'r "hud a lledrith" yn y triciau.
Cyflwynwyd rhodd i Mr Nigel Davies am ei waith a blodau i Mrs Sian Davies, ei briod. Dymunwyd yn dda i Nigel Davies yn y dyfodol pan mae'r Fenter yn ehangu i fod yn Fenter Cyd-enwadol Sir Gaerfyrddin. Bydd yn fwy prysur nag erioed yn calonogi gwaith Ysgolion Sul y Sir trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd a chyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.


Friday, July 10, 2009

MABOLGAMPAU


Nos Fercher 8 Gorffennaf cynhaliwyd mabolgampau Menter Cyd Enwadol Gogledd Myrddin yn ysgol Dyffryn Aman.
Roedd y neuadd yn llawn bwrlwm a braf oedd gweld cymaint o gapeli yn cystadlu. Roedd dros 10 capel yno. Dechrwuwyd y noson drwy gynnal rasus y plant lleiaf, sef meithrin, derbyn a blwyddyn 1 a 3.


Ymysg y cystadleuthau maes roedd taflu pel am yn ol, naid hir, neidio cyflym, taflu pwysau, a naid driphlyg.
Tim Gellimanwydd oedd Catrin, Macy, Rhydian, Rhys, Harri, Dafydd, Nia, Elan a Mari.

Roedd y noson yn lwyddiant ysgubol ac yn wir Fwrlwm gyda'r plant yn mwynhau'r noson yn arw. Unwaith eto diolch i Mr Nigel Davies am drefnu'r holl noson. Y gweithgaredd nesaf fydd Parti Dathlu Menter Cyd Enwadol Gogledd Myrddin yn Neuadd Gellimanwydd ar 15 Gorffennaf.

Sunday, July 05, 2009

TRIP YSGOL SUL

Ar Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod ar drip blynyddol y Capel a'r ysgol Sul.
Er gwaethaf y tywydd yn Rhydaman wrth adael, sef cawodydd o law, cawsom dywydd llawer gwell na'r rhagolygon. Roedd hi'n ddiwrnod braf yn Ninbych y Pysgod fel roedd croen rhai ohonom yn ei ddangos ar ddiwedd y dydd wedi i ni gael lliw haul.


Dechreuodd rhai drwy fynd am gwpanaid o goffi cyn mentro i'r traeth. Manteisiodd eraill ar gyfle i siopa yn y dref. Wrth gwrs yn syth i'r traeth oedd bwriad y plant. Treuliwyd dirwnod hyfryd yn nofio, adeiladu a tyllu yn y tywod, chwarae gemau o griced a rownderi, neu manteisio ar y cyfle i ddarllen a cyfeillachu ar "ddeck chair" ar y traeth.
Hyfryd oedd cael cwmni ein gilydd i rannu sgwrs melys ar y "deck chairs". Hefyd hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg ar y traeth a strydoedd y dref gyda nifer o Gapeli, gan gynnwys Capel Hendre, Hope, Pontarddulais a Capel y Nant, Clydach, yn gwneud yr union yr un fath a ni a dod i Ddinbych y pysgod am drip Ysgol Sul . Cyn troi am adref roedd rhaid archebu pysgod a sglodion i wneud y diwrnod yn gyflawn.


Mae nifer yn siarad am drip y flwyddyn nesaf yn barod.

OEDFA UNDEBOL MOREIA, TYCROES

Braf oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa yn ein chwaer Eglwys, Moreia, Tycroes ar gyfer ein oedfa ar y cyd bore Sul 5 Gorffennaf.
A hithau yn Sul cytnaf y mis roedd gennym Oedfa Gymun. Ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn pregethu a cawsom ganddo neges grymus yn dangos mai neges yr Efengyl sydd yn bwysig a bod pawb, beth bynnag fo'n cefndir a'n tras, eisiau yr un peth - sef cael byw a derbyn cariad Iesu Grist.
Hefyd atgoffodd Y Parchg Dyfrig Rees ni bod y neges tu ol i'r groes yn wir "Dunamis".
Yna gweinyddwyd y Cymun bendigaid gan ein gweinidog.
Wedi'r oedfa cafodd pawb gyfle i gymdeithasu yn Festri Moreia drwy rannu cwpanaid o de.
"Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid a doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym." 1 Corinthiaid 1:17

Thursday, June 18, 2009

CYFARFOD PREGETHU - Y PARCHG R. ALUN EVANS

Braint ac anrhydedd oedd cael croesawu Y Parchg Ddr R. Alun Evans, B.A. Caerdydd atom ar ddydd Sul 14 Mehefin ar gyfer ein Cyfarfodydd Pregethu.
Mae R. Alun Evans yn wyneb cyfarwyd di ni gyd ac rydym yn gwybod am ei waith diflino fel Gweinidog ac ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r "Pethe" yn gyffredinol.
Yn ystod y bore defnyddiodd Y Parchg R. Alun Evans arian fel symbyliad i'w stori i'r plant gan gynnig iddynt naill ai papur £10 punt o arian prydeinig neu papur $10,000 o ddoleri Zimbabwe. Wrth gwrs roedd y plant i gyd eisiau 10,000 o ddoleri tan i R. Alun Evans ddweud mai dim ond hanner torth fyddai hynny yn ei brynu. Y neges oedd bod ei bod yn anodd rhoi gwerth ar arian papur ond bod ein plant werth y byd.

Sunday, June 14, 2009

APEL DE AFFRICA - GWEITHGAREDDAU

Fel rhan o gyfraniad Capel Gellimanwydd i Apel Undeb yr Annibynwyr Cymraeg tuag at De Affrica trefnwyd bore o weithgareddau ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Daeth nifer dda ynghyd i'r Neuadd.
Roedd rhai yn golchi ceir. Eraill yn manteisio ar y stondin gacennau ar gyfer cael rhywbeth melys i gyd fynd a'r cwpanaid o goffi neu te a ddarparwyd ar ein cyfer.
Un gweithgaredd arall oedd yn lwyddiant arbennig oedd darllen allan o Efengyl Marc am awr. Roedd rhai wedi sicrhau noddwyr ar gyfer y darllen. Yn wir roedd yn fendith cael cymryd rhan yn y darlleniad.

Unwaith eto roedd yn bleser cael bod yn rhan o'r gymdeithas yn y Neuadd a hynny tuag at achos da.

"Y mae'r heuwr yn hau'r gair... Marc4:14
A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy yn clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint."
Marc4:20

Saturday, June 13, 2009

TRIP Y CAPEL -YSGOL SUL

Croeso cynnes i bawb - cysylltwch ag Edwyn Williams am fwy o wybodaeth.


Monday, June 08, 2009

BWRLWM BRO


Bore Sul, 7 Mehefin daeth criw da o Ysgolion Sul yr ardal ynghyd i Neuadd Gellimanwydd i fwynhau Bwrlwm Bro. Mr Nigel Davies, Swyddog Plant/Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin oedd yn gyfrifol am y sesiwn.


Cawsom fore wrth ein bodd yn addoli Duw gan gyflwyno'r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni. Defnyddiwyd fuzzy felt, powerpoint, DVD, gemau a chrefft i gyflwyno hanes Y Bedd Gwag a Tomos.


Yna i orffen y cyfarfod cawsom gwpanaid o de neu sudd a creision.


Iesu'n ymddangos i Tomos (Ioan pennod 20 - Beibl.net)

Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos (Tomos oedd yn cael ei alw ‘yr Efaill’ – un o'r deuddeg disgybl).

25 Dyma’r lleill yn dweud wrtho, "Dyn ni wedi gweld yr Arglwydd!" Ond ei ymateb oedd, "Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!"

26 Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi eu cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, "Shalôm!"

27 Trodd at Tomos a dweud, "Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!"

28 A dyma Tomos yn dweud, "Fy Arglwydd a'm Duw!"

29 "Rwyt ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr."

30 Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma.

31 Ond mae’r cwbl sydd yma wedi ei ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy’r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd tragwyddol trwyddo

Tuesday, June 02, 2009

BWRLWM BRO

Bydd Bwrlwm Bro cylch Rhydaman yn cael ei gynnal yn Neuadd Gellimanwydd bore Sul nesaf, sef Mehefin 7fed am 10:30 – 11:45 y.b.

Prif bwrpas Bwrlwm Bro yw calonogi gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd. Bydd y sesiynau wedi eu cynllunio`n ofalus o gwmpas thema Feiblaidd gydag amrywiaeth o weithgareddau. Ymdrechwn i roi profiad llawn hwyl i`r plant tra ar yr un pryd cyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Croeso cynnes i blant 4-14 oed gan gynnwys yr athrawon / rhieni.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.


Nigel

Sunday, May 17, 2009

GWASANAETH MARTIN LUTHER KING

Bore dydd Sul 17 Mai cawsom Wasanaeth teuluol Neges Ewyllys Da ar y thema Martin Luther King. Braf oedd gweld cymaint yn y Capel, yn enwedig teuluoedd ifanc.

Y plant lleiaf, Macy, Catrin a Rhydian oedd yn cychwyn ein hoedfa drwy gyhoeddi yr emyn gyntaf.
Yna cawsom ddarlleniad gan Hanna, emyn gan William a gweddi gan Nia Mair. Rhys Daniels oedd yn cyhoeddi'r ail emyn. Rhoddwyd ychydig o gefndir Martin Luther King i ni gan Annie a cawsom sgets gan Mari, Elan a Dafydd. Darllennodd Mari am hanes Rosa Parks cyn i Harri roi cefndir araith enwog Martin Luther King. Cawsom ychydig o ddyfyniadau pwysig yr araith gan Rhys Jones a Dafydd. Elan oedd yn adrodd am ei farwolaeth a Mari am hanes Barack Obama.

Yn ystod yr oedfa chwaraewyd can U2 - Pride (In the name of love) sydd yn gan am Martin Luther King. I gyd fynd a'r gan gwelsom sleidiau o Martin Luther King yn areithio, Rosa Parks ar y bws yn Alabama a Barack Obama yn y Ty Gwyn.

Cawsom anerchiad gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees cyn i Nia Rees gloi'r gwasanaeth gan gyhoeddi'r emyn olaf.

Yna, yn ol yr arfer, cawsom i gyd gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi yn y Neuadd.

"Fe eisteddodd Rosa Parks fel bod Martin Luther King yn gallu cerdded
Fe gerddodd Martin Luther King fel bod Barack Obama yn gallu rhedeg.
Fe redodd Barack Obama fel ein bod ni yn gallu hedfan."

Monday, May 11, 2009

GWASANAETH CYMORTH CRISTNOGOL

I ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol eleni cynhaliwyd Gwasanaeth Dwyieithog Undebol yng Ngellimanwydd ar Nos Sul 10 Mai.

Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn arwain y gwasanaeth. Drwy gyfrwng storiau, myfyrdodau, darlleniadau a fideos clywsom am am ran Cymorth Cristnogol yn cynnal fflam gobaith ar gyfer rhai o’r cymunedau tlotaf yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – gwlad sy’n dod allan o dywyllwch gwrthdaro ac yn ymsefydlu mewn gobaith bregus. Drwy hanesion pobl ifanc yn Kinshasa, a thrwy eiriau’r ysgrythur, cawsom ein hysbrydoli drachefn, yn barod i roi cariad ar waith dros gymunedau tlawd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol a thu hwnt.

"A dyma'r gorchymun sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd". 1 Ioan 4:21

Sunday, May 10, 2009

WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL


Cynehlir Wythnos Cymorth Cristnogol eleni ar Mai 10-16.

I ddechrau'r gweithgareddau byddwn yn cynnal Gwasanaeth Undebol dwyieithog yng Ngellimanwydd am 5.30 Nos Sul y 10ed. Yna yn ystod yr wythnos bydd aelodau capeli ac eglwysi Rhydaman yn casglu ar draws y dref. Mae'r amlenni coch a gwyn yn gyfarwydd iawn i bawb bellach ac mae cefnogaeth Rhydaman wastad yn anrhydeddus dros ben.
Bydd yr wythnos yn dod i ben ar 15 Mai pan fydd aelodau yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal bore coffi yn Neuadd yr Eglwys, Stryd y Gwynt am 10 -12.

Saturday, May 02, 2009

CALENDR Y SULIAU

TREFN CYFARFODYDD Y SUL
Y Bore am 10.30: Gwasanaeth Addoli
Y Bore am 11.00 tan 11.45: Ysgol Sul y Plant
Yr Hwyr am 5.30: Gwasanaeth Addoli
Gwasanaeth y Cymundeb: Bore Sul cyntaf bob mis ac yn yr hwyr ambell fis.
.
CALENDR Y SULIAU 2009
.
MEDI
6- Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
13- Bore: Y Parchg Derwyn Morris Jones
Hwyr: Cyfarfodydd Pregethu'r Gwynfryn
20 - Y Gweinidog. Cymun yn Oedfa'r Hwyr
27 - Y Gweinidog
.
HYDREF
4 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
11 - Cyrddau Diolchgarwch
18- Y Parchg Emyr Lyn Evans, Abergwili
25 - Y Gweinidog
.
TACHWEDD
1- Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
8 - Cyfardodydd Pregethu Y Parchg Ieuan Davies, B.A. B.D. Clydach
15 - Y Gweinidog
22 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r hwyr
29 Y Parchg Dewi myrddin Hughes B.A., B.D., Clydach
.
RHAGFYR
6 - Y Gweinidog Cymun yn oedfa'r bore
13 - Y Gweinidog
20 - Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia ym Moreia am 10.30 y bore
Hwyr - Oedfa Nadolig y Plant a'r Ieuenctid
25 - Y Gweinidog: Cymun bore Dydd Nadolig am 8.30
27 - oedfa ar y cyd a Moreia yng Ngellimanwydd am 10.30 y bore

Monday, April 06, 2009

CYMANFA GANU 2009

Cynhaliwyd y GYMANFA GANU UNDEBOL ar Ddydd Sul Y Blodau, 5ed Ebrill 2009 yng Nghapel y Gwynfryn. Braf oedd gweld cymaint o aelodau Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser yn ymuno yn y Gymanfa.Yr arweinydd oedd Mrs Ann Davies, LLCM, Llanarthne. Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ.Llywyddwyd yn y bore gan Gapel Hendre a Gosen yn yr hwyr.
Roedd Mrs Ann Davies ar ei gorau yn Gymanfa'r Plant gan lwyddo i gael hwyl arbennig yn y canu, ac yn yr un modd yn yr hwyr.



Tuesday, March 31, 2009

CLWB HWYL HWYR

Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gweithgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Fantasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.
Fel yr ydych yn siwr o fod yn gwybod menter Capeli Cymraeg Rhydaman yw'r Clwb Cristnogol yn llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.