Wednesday, December 28, 2011

PARTI NADOLIG


Roedd Dydd Sul 18 Rhagfyr yn ddiwrnod o ddathlu'r Nadolig yng Ngellimanwydd. Cewch hanes yr oedfa foreol yn Moreia ac oedfa Nadolig y Capel yn y ddau adroddiad blaenorol.

Wedi oedfa'r prynhawn  aeth pawb i Neuadd Gellimanwydd i  orffen ein diwrnod o ddathlu a mawl a chael parti Nadolig. Daeth Sion Corn i’n gweld ac
un o olygfeydd gorau’r flwyddyn oedd gweld y Neuadd yn orlawn o ffrindiau, plant, ieuenctid ac aelodau i gyd yn mwynhau a dathlu’r Nadolig.



Prynhawn Dydd Sul 18 Rhagfyr 2011 am 3.00pm cynhaliwyd gwansanaeth Nadolig Gellimanwydd.  Cawsom ein harwain gan Dafydd Llywelyn, Mari Llywelyn ac Elan Daniels tuag at y preseb. 
Dafydd oedd yn chwarae rhan Joseff, Macey rhan Mair a Catrin rhan Gabriel. Roedd Cari Beth, Efa Haf,  Efa Nel, Elen Gwen, Eve, Ffion, Gwenan, Gwenno, Kalyn,  Mali, Manon, Marged Alaw, yn angylion a Cian, Ianto, Luke, a  Tomos yn fugeiliaid. Roedd rhannau'r doethion a rhai o'r bugeiliaid yn cael eu chwarae gan rhieni ac oedolion.

Roedd rhieni yn darllen o'r beibl a chyflwyno'r emynau. Yn ogystal roedd tri cor yn canu eitemau o dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio.
Roedd y casgliad yn mynd tuag at Shelter Cymru. Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr oedfa o ddathlu a mawl. Hefyd hyfrydwch oedd gweld plant, rhieni, aelodau a ffrindiau'r eglwys yn cyd-dddathlu drwy gymryd rhan yn drama fawr y Nadolig.
Wedi'r oedfa aeth pawb i Neuadd Gellimanwydd i barhau a'r dathlu a chael parti Nadolig.


Awn i Fethlem, bawb dan ganu,
neidio, dawnsio a difyrru,
i gael gweld ein Prynwr c’redig
 aned heddiw, Ddydd Nadolig.




Thursday, December 22, 2011

Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia, Tycroes



Bore Dydd Sul 18 Rhagfyr aeth aelodau Gellimanwydd i Moreia, Tycroes i ymuno gyda ein chwaer eglwys mewn Oedfa Nadolig.  Hyfryd oedd gweld cymaint yn yr oedfa. Cawsom wasanaeth hyfryd a'n harwain at wir ystyr y Nadolig mewn chanu cynulleidfaol, adrodd, darlleniadau ac eitemau unigol gan dri chor.

Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda'n ffrindiau yn Festri Moreia. Roedd yn ddechrau hyfyrd i ddiwrnod hynod fendithiol o fawl i Dduw.

Daeth Crist i'n plith, O llawenhawn,
a deued pawb ynghyd
i'w dderbyn a'i gydnabod ef,
yn Geidwad i'r holl fyd.

Monday, December 12, 2011

Gwasanaethau Nadolig

Bydd Capel Gellimanwydd yn cynnal ei Gwasanaethau Nadolig ar Dydd Sul 18 Rhagfyr 2011.

Yn y bore byddwn yn uno gyda Eglwys Moreia, Tycroes ar gyfer Gwasanaeth Nadolig ar y cyd yn Moreia am 10.30. I ddilyn byddwn yn cael cyfle i gymdeithasu yn Festri Moreia a rhannu Cwpanaid o de a mins peis.

Yna am 3.00 o'r gloch y prynhawn byddwn yn cynnal Oedfa Nadolig Plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yng Ngellimanwydd, gyda'r oedolion yn cynorthwyo. 
Wedi'r oedfa byddwn yn dathlu'r Nadolig drwy gael Parti Nadolig yn y Neuadd. Mae croeso cynnes i bawb a gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno a ni. Gobeithio bydd Sion Corn yn galw yn ystod y Parti.

Ar fore Dydd Nadolig cynhelir Cymun Bore Nadolig am 8.30  

Apel Mr X

Mae Capel Gellimanwydd, Rhydaman wedi cymryd rhan eleni eto yn Apel Mr X, sef ymgyrch Gwasnaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod plant yr ardal yn derbyn anrheg Nadolig. Ar Nos Iau 8 Rhagfyr derbyniodd Joanna Thomas Gwasanaethau Cymdeithasol Dinefwr a’r cylch, rhoddion capeli’r Gwynfryn a Gellimanwydd Rhydaman.a Moreia Tycroes at achos Mr X.

Saturday, October 15, 2011

Operation Christmas Child

Unwaith eto eleni yn ystod Cwrdd Diolchgarwch Plant yt Ysgol Sul roeddem yng Ngellimanwydd yn casglu  bocsus esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child. 
Oeddech chi’n gwybod bod hyn i gyd wedi dechrau yn 1990 pan wnaeth dyn o’r enw David Cooke o Wrexham weld lluniau ar y teledu o blant amddifad heb ddim mewn cartrefi plant yn Romania.
Gofynnodd Mr Cooke i’w ffrindiau ei helpu i lenwi lori fawr gyda tegannau er mwyn ei dreifio i Romania i rhoi anrhegion i’r plant.
Roedd ymateb pobl lleol mor dda fe wnaeth gasglu gwerth £60,000 a chafodd Operation Christmas Child ei sefydlu, ac yn mis Rhagfyr 1990 aeth confoi o dryciau i Romania gyda 17 gwirfoddolwr. Ymysg yr anrhegion oedd y bocsus esgidiau cyntaf i gael eu llenwi gyda anrehgion. Wrth weld wynebau’r plant yn derbyn y bocsus fe wnaeth y gwirfoddolwyr ddweud eu bod am barhau gyda’r gwaith ar ol cyrraedd adref.
Erbyn 1995 wnaeth Operation Christmas Child uno gyda’r Samaritan’s Purse, a chafodd yr apel bocsus esgidiau ei lansio mewn gwledydd eraill. Cafodd  280,000 bocs ei            ddosbarthu ar draws Kenya, Rwanda, Moscow, Romania, Bosnia, Hungary, Albania a Serbia.
Erbyn heddiw mae’r ymgyrch yn dosbarthu 1,200,000 (1.2 miliwn) o focsus esgidiau o Brydain ac Iwerddon pob blwyddyn ac mae bocsus esgididiau plant  Gellimanwydd ymysg y rhain.


Monday, October 10, 2011

Gwasanaeth Diolchgarwch yr Oedolion

Nos Sul 9 Hydref am 5.30 cynhaliwyd gwasnaeth diolchgarwch yr oedolion yng nghapel Gellimanwydd.
Cawsom ein harwain gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees, ac yna daeth nifer ymlaen i ddiolch i'r Arglwydd mewn darlleniadau, adroddiadau a chanu emynau.
Yn ystod yr oedfa cawsom eitemau gan dri Côr, sef parti merched, parti dynion a chôr y Capel.
Yn eu harwain oedd Mrs Gloria Lloyd gyda Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio ar yr organ. I gloi'r oedfa offrymwyd Y fendith gan y Parchg Canon John Gravelle.

"Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuch o'i flaen ef â chân."


Sunday, October 09, 2011

Gwasanaeth Diolchgarwch

Llawenydd a diolch oedd testun Oedfa Ddiolchgarwch Plant Ysgol Sul Gellimanwydd ar Fore Sul 9 Hydref.  Y Llanwenydd cyntaf i ni oedd gweld y Capel yn llawn, yn enwedig gyda cymaint o deuluoedd ifanc yn bresennol.
Roedd aelodau Capel y Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes wedi ymuno a ni. Ein Gwr Gwadd oedd Mr  Nigel Davies, Swyddog Mudiad Ieuenctid Cristonogol Sir Gaerfyrddin.
Dechreuwyd yr oedfa gan Dafydd Llywelyn, Elan Daniels a Mari Llywelyn. Roedd Macy Wilkinson a Catrin Broderick yn rhoi emynau allan a cawsom eitem hyfryd gan y plant lleiaf - 12 ohonynt yn y Sedd Fawr a llawer o rheiny am y tro cyntaf.

Cawsom hanes Mam a'i phlentyn gan Nigel ac yna dangosodd drwy gyflwyniad Power Point mai Iesu yw ein cyswllt ni a Duw. Dangosodd Nigel mai  Iesu yw ein pont ni tuag at Dduw.
I gryfhau'r neges gofynnodd i Dafydd, Macy a Catrin ddod i'r sedd fawr ble roedd wedi rhoi croes bren ar ben dau focs mawr ac roedd angen iddynt gerdded ar hyd y groes i ddangos ei bod yn bosib i ni groesi tuag at Duw drwy ddilyn Iesu a'r groes.

Wedi'r oedfa cawsom ginio bara a caws yn Neuadd Gellimanwydd a chyfle i gymdeithasu.


Friday, October 07, 2011

CYRDDAU DIOLCHGARWCH

Cynhelir Cyrddau Diolchgarwch Gellimanwydd Dydd Sul yma, sef 9ed Hydref.

Yn y bore bydd Gwansanaeth Diolchgarwch Plant yr Ysgol Sul. Bydd aelodau Y Gwynfryn a Moreia Tycroes yn ymuno a ni i ddiolch i Dduw. Yn annerhc bydd Mr Nigel Davies, Swyddog Mudiad Ieucentid Cristnogol Sir Gaerfyrddin.
Wedi'r oedfa byddwn yn cymdeithasu drwy rannu bara a caws a disgled o de yn Neuadd Gellimanwydd.

Yn yr hwyr cynhelir Oedfa Ddiolchgarwch yr Oedolion am 5.30.

Croeso i bawb.

Wednesday, September 28, 2011

Mwy o luniau Trip y gymdeithas

Dyma ychydig mwy o luniau o trip y Gymdeithas i Cheltenham.


Thursday, September 22, 2011

TRIP Y GYMDEITHAS


Dydd Sadwrn 17 Medi oedd dyddiad trip blynyddol Cymdeithas Gellimanwydd eleni.
Cheltenham oedd y gyrchfan y tro hwn. Roedd y bws yn dechrau o Rhydaman am 9 ac erbyn 11.00 roeddem yng nghanol y dre yn barod am ddiwrnod o “sightseeing” a siopa.
Roedd farchnad grefftau yno a manteisiodd rhai ar y cyfle i weld y stondinau cyn crwydro’r Promenad enwog. Wrth gwrs, roedd yn rhaid cael cwpanaid o de a cinio yn y dref cyn dychwelyd am adre.

Yn ol yr arfer rhaid oedd stopio ar y ffordd gartre. Aethom i’r Ship inn yn Alveston, ger yr hen bont Hafren a mwynhau pryd blasus o fwyd a sgwrs melus cyn dychwelyd adre wedi cael diwrnod i’r brenin. Diolch i Mrs Mandy Rees a Mairwen Lloyd am y trefniadau

Sunday, September 04, 2011

A hithau'n ddiwedd gwyliau ysgol mae'n dymor newydd arnom ninnau yng Ngellimanwydd yn ogystal.

Dydd Iau nesaf, Medi 8 bydd Drws Agored yn ail ddechrau yn Neuadd Gellimanwydd. Cofiwch bod croeso i bawb.

Dydd Sul nesaf, Medi 11 mae Ysgol Sul y Plant yn ail ddechrau wedi seibiant dros yr haf.

Yna Nos Wener ganlynol sef Medi 16 bydd Clwb Hwyl hwyr yn dechrau ar dymor newydd am 5.30 yn y Neuadd. Cofwich bod croeso i unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 3-6 i uno gyda ni yn yr hwyl.

Ac yna i ddechrau Tymor newydd bydd Trip blynyddol Y Gymdeithas yn mynd i Cheltenham ar ddydd Sadwrn Medi 17.

Mae'n mynd i fod yn dymor prysur unwaith eto.

Thursday, August 11, 2011

Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin

Cwblhawyd blwyddyn o weithgareddau ar gyfer yr Ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin gyda mabolgampau dan do. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi tyfu yn aruthrol ac eleni cynhaliwyd tair noson o gystadlaethau gyda thyrfa niferus iawn yn bresennol ar bob achlysur. Cynhaliwyd cystadlaethau rhanbarthol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin gyda rowndiau terfynol y sir yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.


Trefnwyd cystadlaethau ar gyfer pob ystod oedran, o’r meithrin hyd at 18 oed, gyda chyfanswm o 59 o gystadlaethau. Roedd amrywiaeth eang yn y math o gystadlaethau er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i fedru cymryd rhan. Yn ogystal â gwahanol fathau o rasys, cafwyd hefyd gwahanol fathau o gystadlaethau maes megis, taflu pêl am nôl, taflu pwysau, neidio cyflym (“speed bounce”), naid hir, naid driphlyg a thynnu rhaff. Gwobrwywyd y tri cyntaf yn y rowndiau terfynol gyda medalau “aur”, “arian” neu “efydd.”

“Cyffro”, “llawenydd”, “hwyl”, “sgrechian”, “gwefr” yw’r geiriau sy’n llifo i’r meddwl wrth gofio am yr achlysur. Roedd yr holl ddigwyddiad yn hysbyseb o’r math orau i’r Ysgol Sul ac i’r clwb Cristnogol.

Bydd M.I.C. eto yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous y tymor nesaf ond yn y cyfamser os hoffech weld rhagor o luniau o’r mabolgampau ewch i www.micsirgar.org

(Mae M.I.C. yn gweithio’n gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r nod o hybu tystiolaeth yr efengyl ymhlith plant a phobl ifanc ac mae croeso i unrhyw eglwys o fewn y sir i fod yn rhan o’r Fenter. Am fanylion pellach cysyllter â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub).

Friday, July 15, 2011

MABOLGAMPAU MIC

Nos Lun diwethaf, 11 Gorffennaf cynhaliwyd Mabolgampau'r ysgolion Sul Dwyrain Caerfyrddin dan nawdd MIC (Mudiad Ieuenctid Cristnogol) Sir Gar.
Hyfryd oedd gweld  Gampfa Canolfan Hamdden Rhydaman yn orlawn. Roedd timau o bob rhan o'r ardal yno yn cystadlu yn y bwrlwm.
Cystadleuthau oedran meithrin a cynradd oedd yn cael eu cynnal gyda'r rowndiau terfynol a chystadleuthau uwchradd yng Nghaerfyrddin ar y nos Fercher.
Roedd cystadleuthau rasus unigol a chyfnewid, naid hir, neidio yn ol a blaen, taflu pel am yn ol, taflu pwysau a tynnu rhaf.
Roedd yn galondid i weld cymaint wedi dod ynghyd a gweld y plant a’r bobl ifanc yn mwynhau mas draw a hynny dan enwau ysgolion Sul yr ardal.

Monday, July 04, 2011

TLWS LERPWL


Fel yr adroddwyd yn yr erthygl flaenorol ar y wefan hon enillodd Ysgol Sul Gellimanwydd yr Ail wobr yng nghystadleuaeth Tlws Cyfundeb Lerpwl am 20 llun mewn albwm yn dangos yr Eglwys ar Waith.
Yn y lluniau uchod gwelir ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees a'i wraig Mrs Mandy Rees yn derbyn y rhodd oddi wrth Llywydd yr Undeb sef Y Parchg Andrew Lenny yn y Cyfarfod Blynyddol yn Biwmaris.

Sunday, July 03, 2011

TLWS CYFUNDEB LERPWL

 
Llun clawr yr albwm
Llongyfarchiadau mawr i Mari Llywelyn ac Elan Daniels o Ysgol Sul Gellimanwydd am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Tlws Cyfundeb Lerpwl.  
Ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg yn Biwmaris cyhoeddwyd enillwyr Cwpan Denman a Tlws Lerpwl a daeth Ysgol Sul Gellimanwydd yn ail yng nghystadleuaeth y Tlws.
Cywaith o 20 llun yn dangos yr Eglwys ar Waith oedd y gystadleuaeth ac roedd Elan a Mari wedi dangos holl waith Eglws Gellimanwydd mewn albwm hardd.
Cyflwynwyd gwobr o £50 i'n Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees yn y Cyfarfod Blynyddol. 

Sunday, June 26, 2011

Chwiorydd Annibynwyr y De

 Mrs. Carys Williams, Penarth yn cyflwyno Beibl y Dalaith i Mrs. Bethan Thomas, Gellimanwydd

Cynhaliodd Adran Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith De Cymru, eu cyfarfod blynyddol eleni yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman a hynny am y tro cyntaf. Braf oedd gweld capel llawn gyda chwiorydd o’r gwahanol ardaloedd yn y De, o’r Barri i Borth Tywyn, yn bresennol.
Llywyddwyd y rhan gyntaf o’r oedfa gan Carys Williams, Penarth (gweddw’r Parch. Meurwyn Williams) ac fe ddarllenwyd o’r Ysgrythur gan Pat Thomas ac Iris Cobbe gyda Gill Lloyd, Penarth yn arwain mewn gweddi. Yn ystod y gwasanaeth urddwyd Bethan Thomas, Gellimanwydd yn lywydd. Bu Bethan yn ysgrifennydd yr adran am dros ddegawd yn y nawdegau.

‘Bara – Y Gwir Fara’ oedd thema’r gwasanaeth. Cafwyd cyflwyniad o ‘Bara Angylion Duw’ gan barti o chwiorydd o gapeli’r Gwynfryn a Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes. Hilary Davies oedd wedi paratoi’r parti a Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ ac yn ystod y gwasanaeth. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig a gofir am amser maith gan Hazel Charles Evans, Llandybïe.
Mi roedd merched Gellimanwydd wedi paratoi’n helaeth gogyfer a’r holl chwiorydd oedd yn bresennol. Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a sgwrsio dros baned a lluniaeth yn Neuadd Gellimanwydd wedi’r oedfa.

Wednesday, June 22, 2011

Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De



Ar Fore Sul 19 Mehefin cyflwynwyd rhodd fechan i Mrs Bethan Thomas, ein Hysgrifennydd, yn arwydd o'n llongyfarchaidau iddi ar gael ei hurddo yn Llywydd Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De.


Bydd Bethan yn cael ei hurddo yn Llywydd Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De, yn ystod  Cyfarfod Blynyddol y Mudiad sydd i'w gynnal yng Ngellimanwydd ar Nos Fawrth 21 Mehefin.

Sunday, June 19, 2011

TRIP Y CAPEL 2011


Ar dydd Sadwrn 18 Mehefin aeth llond bws o aelodau gellimanwydd i Ddinbych y Pysgod. Rhaid dweud bod pawb yn ofudus am 9.30 pan gyrhaeddodd y bws oherwydd roedd yn arllwys y glaw. Yn wir erbyn cyrraedd Cross Hands roedd y trefnwyr yn meddwl am "Plan B" oherwydd roedd hyd yn oed windscreen wipers y bws yn cael trafferth i ymdopi.
Ond erbyn cyrraedd Cilgeti roedd y tywydd yn gwella a cawsom dywydd bendigedig.
Yn ol yr arfer wedi cyrraedd aeth rhai am frecwast mawr, neu cwpanaid o goffi o leiaf. Yna i lawr i'r traeth. Roedd yn gysgodol ar y traeth a daeth yr haul allan i'n croesawu. Newidiodd y plant i mewn i ddillad nofio a treuliwyd y diwrnod cyfan yn chwarae ar y traeth. Manteisiodd rhai ar y cyfle i grwydro'r dref a gweud ychydig o siopa
Erbyn 4.00 o'r gloch roedd pawb yn barod am "fish & chips" ac i fyny i'r dref a ni i gael rhwybeth i fwyta cyn dychwelyd adref wedi cael diwrnod bendigedig a hynny yn yr haul er waethaf rhagolygon yn y bore.

Hyfryd oedd cael cymdeithasu yn un teulu mawr. 

Wednesday, June 01, 2011

TRIP Y CAPEL

Mae Trip y Capel eleni yn mynd i Ddinbych y Pysgod ar Ddydd Sadwrn 18 Mehefin.  Cofiwch ymuno a ni yn  un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Bydd  y bws yn gadael y Capel am 9.30 a dychwelyd o Ddinbych y Pysgod am 5.30. Mae plant yn cael mynd am ddim a pris i oedolyn fydd £12.

Croeso cynnes i bawb. Cysylltwch ag Edwyn os hoffech ddod. 01269 845435

Wednesday, May 25, 2011

LLUNIAU BWRLWM BRO









Tuesday, May 24, 2011

Bwrlwm Bro yr Ysgolion Sul


Dydd Sul 22Mai am 10.30 cynhaliwyd Bwrlwm Bro’r Ysgolion Sul  yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth criw da ynghyd o gapeli Brynaman, Capel Hendre Llangennech Pontarddulais, a Rhydaman,

Mr Nigel Davies, Swyddog Swyddog Plant / Ieuenctid, Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gâr oed dyn gyfrifol am y bore. Drwy gyfrwng PowerPoint a fideo cawsom hanes y dyn dall a iachawyd gan Iesu trwy roi mwd ar ei lygaidYna cafodd y plant gyfle I gymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau yn seilidig ar yr hanes.


Prif bwrpas Bwrlwm Bro yw calonogi gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd. Roedd y sesiwn wedi ei gynllunio’n ofalus o gwmpas hanes “ iachau y dyn dall ger Pwll Siloam” ac yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

Cafodd y plant brofiad llawn hwyl,  tra ar yr un pryd cyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Y gweithgaredd nesaf bydd Mabolgampau Dan Do ar gyfer Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin Dwyrain Sir Gâr yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ar  Nos Lun Gorffennaf 11eg.

Sunday, May 15, 2011

GWASANAETH CYMORTH CRISTNOGOL


Christian Aid/Tom Pilston
I ddechrau gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol trefnwyd Gwasanaeth Undebol Dwyieithog yng Ngellimanwydd. Trawsnewid Cymunedau oedd y testun a cawsom ein harwain gan aelodau'r Capel mewn gweddiau, darlleniadau, myfyrdodau ac emynau. Y mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn rhoi’r cyfle i ni edrych allan o’n bywydau a’n pryderon dyddiol at y darlun ehangach, i fyd o ddioddefaint a gobaith. Yr ydym oll yn rhan o’r darlun ehangach, p’un ai y sylweddolwn hynny neu beidio.  Mae Iesu yn ein gwahodd i ddewis bywyd.Yn ogystal dangoswyd ffilm Cymroth Cristnogol "Allan o Dlodi" oedd yn dangos ymdrechio criw Cymorth Cristnogol Sevenoaks ac yn adrodd stori’r trawsnewid rhyfeddol yng nghymunedau ffermio coffi Nicaragua. 

Hyfryd oedd gweld y Neuad dyn llawn ac wedi'r oedfa casom gyfle i rannu cwpoanaid o goffi a bisgedi.
Am yr holl ffyrdd y mae Cymorth Cristnogol yn helpu trawsnewid cymunedau,       
gan alluogi ein chwiorydd a’n brodyr
i fyw bywydau mwy cyflawn
Diolch i Dduw.
Yr ydym yn rhan o hynny!

Diolch i Dduw.

                                    Amen.

Saturday, April 23, 2011

Y GYMANFA GANU UNDEBOL




Dydd Sul 17 Ebrill ar Sul y Blodau cynhaliwyd ein Cymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Gellimanwydd. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mr Eifion Thomas, Llanelli, Mae Mr Thomas yn adnabyddus drwy Gymru gyfan fel arweinydd Cor Meibion Llanelli ac yn denor dawnus. Cafodd Mr Thomas gefnogaeth broffesiynol medrus Mrs Gloria Lloyd yn ystod y ddwy oedfa.
Roedd Gymanfa'r plant yn ybore am 10.30 ac yna Gymanfa'r oedolion am 5.30 yr hwyr. Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Eifion Thomas ac roedd yntau yn  cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

Tuesday, April 12, 2011

Yr Ysgol Sul

Mae Plant yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi ar gyfer y Gymanfa Ganu Undebol  bore dydd Sul 17 Ebrill.

Hefyd Dydd Sul diwethaf roedd y dosbarth lleiaf wedi paratoi cardiau Pasg gan liwio lluniau o wyau pasg ac yna eu gludo ar garden.
Hyfryd oedd gweld y plant lleiaf yn gweithio mor ddiwyd ac yn mwynhau eu hunain yr un pryd.

CLWB HWYL HWYR

Daeth tymor Clwb Hwyl Hwyr i ben Nos Wener 9 Ebrill. Unwaith eto mae'r tymor wedi bod yn un llwyddiannus iawn gyda nifer o weithgareddau a nosweithiau gwerth chweil yn Neuadd Gellimanwydd ar Nos Wener.
Eleni dechreuwyd Clwb uwchradd a daeth criw da ynghyd ar Nos Wener cyntaf y mis am 6.30.

Mae'r Clwb Cynradd yn cwrdd am 5.0 pob Nos Wener adeg tymor ysgol o Medi hyd at ddiwedd tymor y Pasg.

I orffen y tymor cawsom barti ble dewisiodd pawb rhwng chicken nuggets neu sosej a chips.

Hoffai swyddogion y Clwb ddiolch i bawb sydd wedi mynycu'r clwb am eu cefnogaeth.

Cwrdd ar y cyd gyda Moreia Tycroes

Bore Dydd Sul 10 Ebrill cawsom gyfle i gyd addoli gyda'n chwaer eglwys, Moreia, Tycroes. Daeth aelodau Moreia atom i Gellimanwydd ar gyfer yr Oedfa foreuol. Ein Gweinidog, Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn arwain yr oedfa. 
Yn ol yr arfer adeg cwrdd ar y cyd cawsom gyfle i gymdeithasu wedi'r oedfa drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi yn y Neuadd.

Yna yn y nos cawsom Ymarfer olaf ar gyfer y Gymanfa Ganu Undebol sydd i'w chynnal yn Gellimanwydd Sul Nesaf, sef Sul y Blodau 17 Ebrill am 10.30 y bore a 5.30 yr hwyr.  Yr arweinydd Gwadd fydd Mr Eifion Thomas, Llanelli, sef arweinydd Cor meibion Llanelli.

Drws Agored

rhai o griw Drws Agored
Mae Drws Agored yn cyfarfod pob bore Dydd Iau yn Neuadd Gellimanwydd. Yno cewch gyfle i gyfarfod dros gwpanaid o de i gymdeithasu a chael clonc. Hefyd yn ystod y bore cawn fyfyrdod byr. Mae'r criw sy'n cwrdd ar fore Iau wedi bod yn hynod weithgar yn cyfrannu'n hael tuag at elusennau a mudiadau lleol. Mae'r rhoddion bore Iau yn casglu'n gyflym i fod yn £50 tuag at elusen lleol.

Wednesday, April 06, 2011

Gwefan Newydd Menter Ieuenctid Cristnogol

Mae’n bleser gan Fenter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) sir Gaerfyrddin eich hysbysu am fodolaeth ein gwefan newydd. Mae M.I.C.yn gweithio yn gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r bwriad o hyrwyddo gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid. Bydd y wefan newydd yn hwb i dystiolaeth M.I.C. ac yn gyfrwng mwy effeithiol o godi ymwybyddiaeth o’r hyn mae’r Fenter yn ceisio ei chyflawni. O hyn allan bydd gwybodaeth am bob digwyddiad a drefnir gan M.I.C. ar y wefan ynghyd a ffurflenni a thaflenni i’w lawr lwytho. Mae yno hefyd fap sy’n dangos enw a lleoliad pob eglwys sy’n perthyn i M.I.C. Carwn eich gwahodd felly i ymweld a’r wefan ar http://www.micsirgar.org/

Tuesday, March 22, 2011

Bedydd

Yn ystod Oedfa fore Sul Ionawr 30 yn Ngellimanwydd bedyddwyd Elan Wyn Jones, merch Nia a Gareth Jones, Tycroes. Yna yn oedfa deuluol bore dydd Sul Mawrth 13 bedyddwyd Ifan Wyn Jones, mab Nerys a John Jones, Hopkinstown.

Mae Elan ac Ifan yn gefnder a chyfneither ac yn wyrion i Ann ac Wynford Jenkins, Rhodfa Brynmawr, Rhydaman. Dymunwn pob bendith I’r ddau fach

Sunday, March 20, 2011

Gwasanaeth ar y thema ceiswyr lloches

a
Bore Sul 20 Mawrth criw ACT oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth boreol. Ceiswyr Lloches oedd y thema. Hyfryd oedd gweld cymaint yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer yr oedfa.  Cawsom ein harwain drwy weddi, darlleniadau, emynau, caneuon, adroddiadau a sgetsus at yr angen am Noddfa arnom i gyd.
Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am yr oedfa arbennig.

Thursday, March 17, 2011

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Mae criw ACT yn cyfarfod yn fisol yn Neuadd Gellimanwydd, sef criw o aelodau  ifanc Gellimanwydd, er does dim oedran penodol ar gyfer y criw.
Nos Iau diwethaf, 10 Mawrth, dan nawdd Criw ACT, cawsom noson arbennig yn y Neuadd. Daeth criw o bobl o Abertawe atom. Ceiwsyr lloches neu ffoaduriaid oedd y pobl a daethant atom i son am Abertawe fel dinas Noddfa "City of Sanctuary". Ein Cyn Weinidog  y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd wedi creu'r cyswllt hwn a braf oedd cael croesawu Dewi atom i'n plith.
 Yn ystod y noson cawsom gyngerdd anffurfiol gyda ein gwestwion yn cymryd rhan drwy ddarllen barddoniaeth, adrodd ychydig o hanes a chwarae Drymiau Affricanaidd. Yna daeth aelodau Gellimanwydd at eu gilydd i ganu ychydig o ganeuon traddodiadol Cymreig, a cawsom eitemau ar y piano gan Rhys Thomas.
Un o uchafbwyntiau'r noson oedd gweld plant Ysgol Sul Gellimanwydd, Mari, Elan a Dafydd yn chwarae'r drymiau gyda'r ymwelwyr.
Wedi'r adloniant cawsom gyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn ffurf bwffe bys a bawd oedd wedi ei baratoi gan aelodau Gellimanwydd.
Noson hyfryd gyda neges pwrpasol i ni gyd - mae Dinas Noddfa yn ymgyrch cenedlaethol o bobl lleol a grwpiau cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd i wneud eu trefi a dinasoedd yn lefydd croesawgar, saff ar gyfer pobl sy'n cwhilio am noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth.

Monday, March 14, 2011

CWRDD TEULUOL


Cariad oedd testun yr Oedfa Deuluol bore Dydd Sul 13 Mawrth. Hyfryd oedd gweld y plant yn gwneud eu rhannau mor dda. Yn wir roedd nifer ohonynt yn cymryd rhannau blaenllaw am y tro cyntaf a phob un mor broffesiynol.
Hefyd cawsom y fraint o fod yn tystiolaethu bedydd (cewch fwy o wybodaeth am y bedydd wythnos nesaf).
Mrs Catrin Llywelyn, un o athrawon Ysgol Sul y Neuadd, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth.  
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid o de yn y Neuadd.
Yn yr hwyr aeth aelodau Gellimanwydd draw i Gyrddau Pregethu'r Gwynfryn ble roedd y Parchg Ddr Geraint Tudur yn pregethu.