Sunday, March 28, 2010

Cymanfa Ganu undebol Rhydaman a’r Cylch

Dydd Sul y Blodau, Mawrth 28ain 2010 cynhaliwyd y Gymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mrs Helen Wyn, Brynaman. Mae Mrs Wyn yn adnabyddus fel arweinydd, yn gyn athrawes gerdd a bellach yn cynorthwyo gyda Cwmni Opera Ieuenctid Caerfyrdidn a Chôr Brynaman.
Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio
Caersalem oedd yn llywyddu yn ystod oedfa’r bore, sef Gymanfa’r Plant a Gellimanwydd yn yr hwyr yn ystod Gymanfa’r oedolion.
Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Helen Wyn a oedd yn cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

Thursday, March 25, 2010

BEDYDDIO GWENAN A TOMOS REES


Ar Fore Sul 28 Chwefror bedyddwyd plant Elen ac Alun Rees, sef Gwenan Mai a Tomos Glyn. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio’r ddau fach. Dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd i Gwenan a Tomos i'r dyfodol.

"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17


Wednesday, March 24, 2010

Mudiad Cenhadol Y Chwiorydd – Gellimanwydd, Gwynfryn a Moreia

Cynhaliwyd oedfa Flynyddol Mudiad Cenhadol y Chwiorydd yng nghapel Gwynfryn, Rhydaman ar Fawrth 4ydd 2010. Daeth y llywydd newydd, sef  Mrs Mairwen Lloyd, Gellimanwydd i’r gadair. Cymerodd Mrs Marjorie Rogers at drysordyddiaeth y Mudiad ar ôl marwolaeth annisgwyl Mrs Megan Griffiths.


Cafwyd anerchiad pwrpasol gan y parchg Emyr Gwyn Evans yn seiliedig ar y “Lili-Wen Fach” cyn gwinyddu’r cymun. Mrs Awen Harries yw ysgrifenyddes y Mudiad.

Monday, March 08, 2010

PYTHEFNOS MASNACH DEG

Roedd aelodau Clwb Hwyl Hwyr, sef  Clwb Cristnogol eglwysi Cymraeg Rhydaman yn cymryd rhan y y Banana Split enfawr yn yr Arcade ar Nos Wener 5 Mawrth.
Rhan o ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg oedd hon. Dyma'r ail waith i ni adeiladu Banana Split enfawr ar hyd yr arcade ac roedd un eleni yr un mor fawr a llynedd.


Yn gyntaf roedd angen torri'r bananas a'u gosod ar y cafn, wedyn ychwanegu'r hufen ia, yr hufen a'r saws siocled - wedi hyn roedd pawb yn gafael mewn llwy a bwyta!!

Pa well ffordd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth am nwyddau sy'n rhoi cyfle teilwng i'r ffermwyr a'r masnachwyr

Tuesday, March 02, 2010

BEDYDD

Ar Fore Sul 28 Chwefror bedyddwyd plant Elen ac Alun Rees, sef Gwenan Mai a Tomos Glyn. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio’r ddau fach.

Mae bedydd yn cyhoeddi fod Iesu wedi marw drosom ac ei fod wedi gwneud hynny cyn i ni gael ein geni. Mae Duw yn ein caru ni.
"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17