Saturday, April 14, 2012


Yn ystod Gwasanaeth Bore Sul Y Pasg daeth Mr Rhys a Mrs Meleri Mair Williams yn aelodau o’r eglwys. Gan mai eglwys y bedyddwyr oedd Rhys yn ei fynychu cyn dod atom ei ddymuniad oedd cael ei fedyddio yn gyntaf. Gwnaeth ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees fedyddio Rhys yn gyntaf ac yna derbyniwyd Rhys a Meleri yn llawn aelodau yng Ngellimanwydd. Mae gan Rhys  a Meleri ddau o blant, sef Efa ac ianto. Mae Efa yn mynychu Ysgol Sul y Neuadd.

Hyfryd yw cael croesawu teulu ifanc i’n plith.


Gwasanaeth Y Pasg



Yn ystod oedfa Bore Sul y Pasg cawsom ein harwain gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees. Gweinyddwyd y Cymundeb gan Mr Guto Llywelyn, un o’n haelodau sydd yn Bregethwr Cynorthwyol gyda Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Roedd y Neuadd yn llawn a hyfrydwch oedd cael croesawu ffrindiau a pherthnasau i'r oedfa.


Monday, April 09, 2012

Mr Vernon Rowlands


Mae pawb yng Ngellimanwydd yn anfon ein cyfarchion a’n dymuniadau gorau i Mr Vernon Rowlands, Llwyn y Bryn wrth iddo baratoi i ymfudo i Seland Newydd.

Bu Vernon yn ddiacon gweithgar yng Ngellimanwydd a bu ef a’i wraig yn ffyddlon yn yr oedfaon. Pob bendith iddo wrth ymgartrefu mewn gwlad newydd er mwyn bod yn agos at ei ferch a’i theulu.




Tuesday, April 03, 2012

Y GYMANFA GANU



Sunday, April 01, 2012

CYMANFA GANU UNDEBOL



Cawsom Gymanfa Ganu Undebol hynod lwyddiannus ar Ddydd Sul Y Blodau, Ebrill 1af 2012 yng Nghapel Gellimanwydd. Arweinydd oedd Mr. Alun Tregelles Williams, Treforys. Fel arfer Mrs Gloria Lloyd oedd yn canu'r organ.
Yn ystod Gymanfa'r bore Elen Daniels a Mari Llywelyn gymerodd at y rhannau arweiniol.  
 
Cafodd Gymanfa oedolion, a gynhaiwyd am 5.30 ei recordio gan Radio Cymru ar gyfer ei darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y rhaglen Caniedaeth i'r Cysegr.