Thursday, August 11, 2011

Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin

Cwblhawyd blwyddyn o weithgareddau ar gyfer yr Ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin gyda mabolgampau dan do. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi tyfu yn aruthrol ac eleni cynhaliwyd tair noson o gystadlaethau gyda thyrfa niferus iawn yn bresennol ar bob achlysur. Cynhaliwyd cystadlaethau rhanbarthol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin gyda rowndiau terfynol y sir yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.


Trefnwyd cystadlaethau ar gyfer pob ystod oedran, o’r meithrin hyd at 18 oed, gyda chyfanswm o 59 o gystadlaethau. Roedd amrywiaeth eang yn y math o gystadlaethau er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i fedru cymryd rhan. Yn ogystal â gwahanol fathau o rasys, cafwyd hefyd gwahanol fathau o gystadlaethau maes megis, taflu pêl am nôl, taflu pwysau, neidio cyflym (“speed bounce”), naid hir, naid driphlyg a thynnu rhaff. Gwobrwywyd y tri cyntaf yn y rowndiau terfynol gyda medalau “aur”, “arian” neu “efydd.”

“Cyffro”, “llawenydd”, “hwyl”, “sgrechian”, “gwefr” yw’r geiriau sy’n llifo i’r meddwl wrth gofio am yr achlysur. Roedd yr holl ddigwyddiad yn hysbyseb o’r math orau i’r Ysgol Sul ac i’r clwb Cristnogol.

Bydd M.I.C. eto yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous y tymor nesaf ond yn y cyfamser os hoffech weld rhagor o luniau o’r mabolgampau ewch i www.micsirgar.org

(Mae M.I.C. yn gweithio’n gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r nod o hybu tystiolaeth yr efengyl ymhlith plant a phobl ifanc ac mae croeso i unrhyw eglwys o fewn y sir i fod yn rhan o’r Fenter. Am fanylion pellach cysyllter â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub).