Sunday, December 21, 2008

GWASANAETH NADOLIG PLANT AC IEUENCTID

Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig plant ac ieuenctid Ysgol Sul y Neuadd ar Nos Sul 21 Rhagfyr 2008. Roedd y capel yn llawn a hyfryd oedd gweld yr addurniadau, yn enwedig y canhwyllau ar y silffoedd.
"Ganwyd Crist" oedd teitl yr oedfa a cafodd ei pharatoi gan Miss Ruth Bevan, un o athrawon yr Ysgol Sul. Cawsom ein harwain gan Nia Rees. Roedd Manon Daniels yn darllen a Trystan Daniels yn rhoi emyn allan. Hanna Williams oedd yn ein harwain mewn gweddi. Draw yn ninas Dafydd Frenin oedd yr emyn gan Annie Jones.

Yna Nia Mair Jeffers oedd yn arwain a hynny drwy adrodd i gyfeiliant a cawsom ymson gwraig yn adrodd sut Nadolig yw hi heddiw gan Mari Llywelyn. Roedd Elan Daniels yn adrodd ymson gwraig y llety a Dafydd Llywelyn un y bugail. William Jones oedd llais y doethion a Rhys Jones llais Herod.
Yn dilyn hyn roedd golygfa ystafell Scrooge. Elan Daniels, Mari Llywelyn a Sara Mai Davies oedd y cyflwynwyr. Harri Jones oedd y cybydd Scrooge. Daeth Dafydd a Rhys i ganu carolau ond eu troi i ffwrdd gan Scrooge. Sara Mai Davies oedd llais Ysbryd y Nadolig a’r plant bach yn adrodd oedd Macey Haf a Catrin Haf.
Rhoddwyd diolch a neges amserol i’r plant gan ein Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees.

Cyn canu’r garol olaf cawsom gyfle fel aelodau i fynegi ein diolch i Gloria Lloyd a Cyril Wilkins am eu gwasanaeth arbennig fel organnydd ac is-organnydd. Cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees rodd fechan i’r ddau fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.

Rhys Daniels oedd yn darllen y garol olaf. Wedi’r emyn cyflwynodd Y Parchg Dyfrig Rees y fendith ac aeth pawb allan yn llawen yn llawn gwir ysbryd y Nadolig.
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

No comments: