Thursday, April 26, 2007

Drama a Noson Lawen

I gloi Tymor y Gymdeithas eleni cawsom noson lawen a drama. Roedd y noson yng ngofal dwylo medrus Ruth Bevan, un o'n diaconiaid. Yn wir roedd tri o'r diaconiaid, sef Ruth Bevan, Brian Sheldon Thomas ac Edwyn Williams yn actio yn y ddrama, gyda Ivoreen Williams yn ymuno a nhw. Hanci Panci oedd enw'r ddrama, ac fel mae'r enw yn awgrymu ffars llwyr oedd hon, a'r gynulleidfa yn rowlio chwerthin trwyddi. Braf oedd gweld y Neuadd yn llawn. Roedd y Neuadd yn edrych ar ei gorau wedi ei phaentio a gyda llenni newydd ar y ffenestri. Bydd elw'r noson yn mynd tuag at gostau'r llenni. Wedi'r ddrama cawsom Noson Lawen. Unwaith eto brethyn cartref oedd gennym gyda aelodau'r capel yn cymryd rhan - sef y Côr Dynion, Côr Merched, Deuawd gan Harry Thomas ac Eric Lloyd, ac adroddiad gan Hanna Williams. Hyn oll yn cael ei lywio gan ein harweinydd medrus - Ruth Bevan.
I gloi'r Noson cawsom yr eitem "Ecstafagansa". Roedd y Frenhines yn bresennol, a'r Dug Caeredin i weld Tom Jones, Jac a Wil, Y Bolshoi Ballet, a Shirley Bassey mewn "Royal Gala Performance". Roedd pawb yn morio chwerthin ac wedi llwyr fwynhau.
Diolch i bawb a gymerodd rhan, yn enwedig Gloria Lloyd wrth y piano, ond yn bennaf i Ruth Bevan am drefnu'r holl weithgareddau.
Rydym yn edrych ymlaen yn barod am y flwyddyn nesaf.





No comments: