Tuesday, March 18, 2014

CWRDD TEULUOL GWYL DDEWI

Ar fore Sul 2 Mawrth cynhaliwyd oedfa deuluol i ddathlu gwyl Dewi. Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn a'r sedd fawr yn llawn bwrlwm wrth i'r plant gyflwyno eiu heitemau.
Cawsom ddarlleniadau a gweddiau gan plant oedran iau ac uwchradd a'r plant cynradd oedd yn cyflwyno'r emynau.
Roedd pob un yn cyflwyno yn hynod effeithiol a phroffesiynol. Cyflwynwyd eitem gan y plant cynradd ar y thema Daniel, oed dyn cydfynd a'r gwersi maent wedi bod yn ei ddilyn yn yr Ysgol Sul.
 
Gweinyddwyd y cymundeb yn ystod y gwasanaeth ac wedi'r Fendith cawsom gyfel I gymdeithasu yn y neuadd drwy rannu cwpanaid o de, cacennau cri a bisgedi.

Tuesday, February 25, 2014


CYMDEITHAS GELLIMANWYDD
 
 Noson o Gawl
a
Brethyn Cartref
 
Nos Lun, 3 Mawrth 2014
I ddechrau am 7.00
Neuadd Gellimanwydd
Pris £7

 

Monday, February 03, 2014

CYMANFA GANU UNDEBOL

Cynhelir Cymanfa Ganu,
Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser 
 
 Dydd Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014
yng Nghapel Gellimanwydd.
 
Yr Arweinydd fydd Mr Steffan Huw Watkins, Y Fforest
a'r organyddes yw Mr Gloria Lloyd.
 
Gellimanwydd fydd yn llywyddu yn y bore
a Gosen yn yr hwyr.

Sunday, January 26, 2014

APÊL HAITI


Rhai o Chwiorydd Gellimanwydd a fu’n paratoi yn hael ar ein cyfer
 
 
Yn dilyn Oedfa fore yng Nghapel Gellimanwydd ar Dydd Sul 26 Ionawr cynhaliwyd Cinio Bara a Chaws yn y Neuadd. Prif bwrpas y cinio oedd codi arian tuag at apêl Haiti Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. 

 Bob pedair blynedd mae Undeb yr Annibynwyr yn cynnal apêl arbennig tuag at waith Cymorth Cristnogol mewn un wlad benodol. APÊL HAITI gynhelir yn 2013-14, er budd pedwar prosiect i helpu gwlad dlawd a chwalwyd gan ddaeargryn anferth yn 2010.

Daeth cynrychiolaeth dda  i’r wledd ar ôl yr oedfa ac fe gawsom gân gan blant yr Ysgol Sul.  Casglwyd swm sylweddol tuag at yr apêl a diolchwyd i bawb am eu haelioni gan Y Parchg Dyfrig Rees.  

 

Sunday, January 19, 2014

Bedydd


Yn ystod Gwasanaeth boreol Dydd Sul 19 Ionawr bedyddwyd Gwenni Ann, merch Rhys a Julie Thomas.
 
Mae Gwenni yn chwaer i Efa Nel sydd yn aelod ffyddlon o Ysgol Sul Gellimanwydd.
 
Braf oedd cael  bod yn  bresennol i dystio i'r bedydd a rhannu yn y dathlu. 
"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17