Sunday, February 03, 2008

CWIS BEIBLAIDD


Roedd Neuadd Gellimanwydd yn llawn prynhawn Sul 2 Chwefror ar gyfer Cwis Beiblaidd Ysgolion Sul Gogledd Myrddin. Pedwar oedd ym mhob tim ac roedd wyth Ysgol Sul yn cystadlu. Roedd timau wedi dod o Frynaman, Llangadog, Cwmdu, Llanfynydd, Nantgaredig a Chaerfyrddin, yn ogystal a Rhydaman.
.
Tim Gellimanwydd oedd Elan Daniels, Sara Mai Davies, Harri Jones, a Mari Llywelyn. Llwyddodd y pedwar i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
.
Nigel Davies, Cydlynydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, oedd y cwis feistr. Y maes gosod ar gyfer y cwis oedd Gideon a Porthi'r Pum Mil. Yn ogystal a cwestiynau unigol ar y maes gosod cawsom gwestiynau ar luniau o storiau o'r beibl, cwestiynau aml ddewis a rownd ar y "buzzer". Y buddugwyr oedd Tim Penuel, Caerfyrddin.

Diolch i Hanna Wyn Williams a Nia Mair Jeffers, dwy o bobl ifanc yr ysgol Sul, am baratoi'r paned o de i'r oedolion a'r diod i'r plant yn ystod y prynhawn.

Sunday, January 06, 2008

DERBYN AELOD

Hyfrydwch i bawb oedd yn bresennol yn oedfa gyntaf 2008 oedd debyn Rhodri Rees, Tycroes yn lawn aelod i'n heglwys. Pleser o'r mwyaf oedd derbyn Rhodri yn aelod llawn yn ystod y Cymundeb yn oedfa foreol 6 Ionawr 2008.
Mae Rhodri yn ffyddlon yn yr oedfaon ac wedi bod yn aelod o ysgol Sul y Neuadd. Ar hyn o bryd mae'n astudio yng Nghampws Y Graig, Coleg Sir Gar.
A hithau yn ddechrau 2008 mae newyddion calonogol fel hon yn ein sbarduno i gofio bod gennym Dduw sydd o'n plaid.
Dymunwn Blwyddyn Newydd Dda i bob un ac edrychwn ymlaen at gwmniaeth cyd-aelodau a chynhaliaeth yr Arglwydd Iesu drwy gydol 2008.

SUL OLA'R FLWYDDYN


Bore Sul 30 Rhagfyr daeth aelodau Moreia atom i Gellimanwydd ar gyfer ein hoedfa olaf o 2007. Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn pregethu a cawsom hanes Simeon ac Anna allan o lyfr Luc. Atgoffwyd pawb bod yr Eglwys Iddweig wedi codi pobl dda a duwiol fel Simeon ac Anna. Yna cawsom fyfyrdod ar beth allwn ni ei wneud fel Cristion heddiw. Ydyn mi rydym yn teimlo'n aml ein bod yn mynd yn erbyn y llif, ond mae angen sicrhau bod ein Duwioldeb ni mewn cyswllt a'r byd real. Mae angen i ni weithio mewn partneriaeth a'n gilydd ac eraill. Gallwn helpu eraill ac helpu ein gilydd drwy edrych ar amryw sefyllfaoedd. Mae angen i ni fod yn GRISTION drwy fod yn berson real a byw bywyd sy'n llawn ac ystyrlon yn oleuni bywyd Duw.

Wedi'r oedfa, yn ol yr arfer cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd.

Friday, December 28, 2007

GWASANAETH MOREIA





Bore Sul, 23 Rhagfyr 2007 aeth aelodau Gellimanwydd i Moreia Tycroes i uno mewn gwasanaeth Nadolig ar y cyd. Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn a cafodd pawb oedd yn bresennol wir fendith o gyd-addoli gyda'n gilydd.


Wedi'r oedfa reodd merched Moreia wedi paratoi Cwpaned o de a mins peis yn y festri.


Yn y llun gwelwn nifer o'r aelodau yn mwynhau yn y festri.




Monday, December 24, 2007

GWASANAETH NADOLIG


Nos Sul 23 Rhagfyr, 2007 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Ysgol Sul y Neuadd. Roedd y capel wedi ei addurno'n hardd gyda canhwyllau wedi'u tanio ar sil pob ffenest.

Cawsom olwg ar y Nadolig cyntaf drwy lygaid yr anifeiliaid a phethau eraill a wnaeth eu rhan yn geni Iesu Grist. Yn y gwasanaeth rhoed sylw i'r creaduriaid a'r seren ac yn arbennig i un pry copyn bach a wnaeth bopeth i wneud bywyd Iesu Grist yn esmwyth ar ol iddo gael ei eni.

Roedd Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cymryd y rhannau arweiniol a'r plant llai yn adrodd hanes y seren a'r anifeiliaid. Bu'r ychen a'r asyn yn garedig iawn yn rhoi eu lle i'r baban Iesu, a rhoddodd y golomen fach blu a'r oen wlan i wneud y preseb yn fwy clud.

Yna cawsom olygfa ble roedd mam a merch yn addurno'r goeden gyda tinsel ac adroddwyd hanes y pry copyn bach yn safio bywyd Iesu drwy greu gwe ar draws geg yr ogof fel bod y milwyr ddim yn gallu gweld Mair a Joseff yn cuddio ynddi.

Diolch i bawb a gymrodd rhan a chafodd y gynulleidfa niferus wir fendith drwy ddathlu geni ein Gwaredwr.

Pan anwyd Crist ym Methlehem dref

Canodd angylion nef.

Canu wnawn ninnau'n llawen ein llef

Foliant i Faban Mair.