Wednesday, September 20, 2006

HENFFORDD A MAESYRONEN


Dydd Sadwrn, 18 Medi oedd dyddiad trip blynyddol Y Gymdeithas. Henffordd oedd y cyrchfan y tro hwn. Roedd pawb yn sefyll y tu allan i'r capel am 9.00 a daeth Sharon a Kevin , ein gyrrwyr, yn brydlon i fynd a ni ar ein taith.
Roedd yn fore bendigedig a'r golygfeydd o Ddyffryn Tywi, Aberhonddu a Dyffryn Gwy yn odidog. Roedd Mrs Mandy Rees, ein hysgrifenyddes, wedi trefnu stop am gwpaned o de yn Bronllys.
Yna ymlaen i Gapel Maesyronen ( sylwer mai un N sydd yn yr enw). Maesyronen yw un o gapeli hynaf Cymru. Cafodd y Capel presennol ei adeiladu o gwmpas 1696. Tu fewn i'r capel gwelir celfi o'r 18ed a'r 19eg ganrif. Mae'r ford fawr dderi yn dal i'w chael ei defnyddio adeg cymundeb. Mae cwrdd yn y capel pob Sul.


Cyn gadael Capel Maesyronen canwyd emyn gyda'r Parchg Dyfrig Rees yn cyfeilio. Yna ymalen i Henffordd. Cawsom brynhawn wrth ein bodd yn y ddinas. Aeth rhai i weld y Mappa Mundi a'r llyfgell tsiaen ac wedyn awr neu ddwy yn crwydro'r dref yn siopa.

Unwaith eto roedd y trip yn lwyddiant ysgubol ac mae'n diolch i'n Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees am roi hanes y pentrefi i ni ar y ffordd ac i Mandy Rees am wneud y trefniadau.


Friday, September 15, 2006

LLWYDDIANT EISTEDDFODOL

Llongyfarchiadau i ddau o feibion yr eglwys.
Aled Rhys Hughes, mab Y Parchg Dewi Myrddin Hughes yw enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Mae Aled hefyd yn derbyn gwobr o £3,000 am gyfres o ffotograffau o dirlun y Mynydd Du. Yn ôl un o'r detholwyr Peter Finnemore mae'r lluniau'n "ddosbarth meistr mewn gwaith ffotograffig hynod gelfydd".
Yna ar y dydd Iau roedd brawd Aled, sef Dr Ifan Hughes, Prifysgol Durham yn traddodi'r Ddarlith Wyddonol Flynyddol yn y Pagoda yn yr Eisteddfod. Teitl darlith Ifan oedd "Ias oer - y laser a mater oera’r cread" a oedd yn son am y gwaith ymchwil mae'n ei wneud yn Durham gyda lasers.

Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt.

Monday, August 07, 2006

GWASANAETH BOREOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol cafwyd pregeth gan Archesgob Caergaint. Braf yw cael dweud bod llond bws o aelodau a ffrindiau eglwys Gellimanwydd yno.

Testun ei bregeth oedd Cenedl, Cymuned, Cyfiawnder.
Dywedodd y Parchedicaf Rowan Williams - Yn yr Hen Destament, yn llyfr Deuteronomium, fe ddarllenwn, "Gwnaeth yr Arglwydd ein Duw gyfamod a ni yn Horeb."Nid a'n hynafiaid y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond a ni i gyd sy'n fyw yma heddiw'. Mae galwad Duw yn dod i ni heddiw, galwad i ateb ein Creawdwr a'n Hiachawdwr mewn cariad a llawenydd yn yr awr hon ac yfory.

Ychwanegodd - Caru Duw - caru cymydog. Mewn cymuned fel hon, mae'r cymydog yn mynd yn frawd neu'n chwaer ac mae'r gymuned yn mynd yn deulu. Os ydym yn sefyll ynghyd gerbron Duw yr ydym yn sefyll hefyd gerbron y cymydog. Fel y dywedodd Iesu gan orchymyn, "Câr yr Arglwydd dy Dduw a char dy gymydog fel ti dy hun."

Fel rhan o deulu Duw yma yng Nghellimanwydd cawsom gyfle wedi'r oedfa i gymdeithasu a'n cyfeillion yn Neuadd Gellimanwydd drwy rannu gwledd oedd wedi ei baratoi ar ein cyfer.

Diolch i bawb oedd wedi trefnu.

Wednesday, July 19, 2006

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch

Bydd safle hen waith dur Felindre yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol o Awst 5 - 12 2006. Pafiliwn pinc sydd yn cael ei ddefnyddio eleni. Cafodd ei gynllunio ar gyfer ymgyrch cansyr y fron ac mae'n siwr o ddenu sylw pobl sy'n teithio ar yr M4 heibio hen waith dur Felindre.

Ar fore Sul Awst 6 byddwn fel aelodau Gellimanwydd yn teithio mewn bws er mwyn ymuno a'n cyd-gristnogion mewn oedfa yn y Pafiliwn, ble disgwylir i'r Parchedicaf Rowan Williams, Archesgob Caergaint bregethu. Pa ffordd well i ddechrau'r wythnos na chyd-addoli a dathlu ein diwylliant fel Cymru.

Wedi dychwelyd o Oedfa Foreol yr Eisteddfod cawn gyfle i gymdeithasu drwy rannu mewn gwledd wedi ei pharatoi ar ein cyfer yn Neuadd Gellimanwydd.

Monday, July 03, 2006

LLUNIAU O'R TRIP





Dyma rai lluniau o Ddinbych y Pysgod.