Wednesday, December 19, 2012

OEDFAON NADOLIG

Ar drothwy'r Nadolig dyma restr o'n hoedfaon dros yr Wyl.

DYDD SUL 23 Rhagfyr
BORE - Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia ym Moreia, Tycroes am 10.30am
.
PRYNHAWN - OEDFA NADOLIG Y TEULU AM 3.00PM
Wedi'r oedfa cawn gyfle i barhau a'n dathliadau Nadolig drwy gynal PARTI NADOLIG yn y Neuadd.
 
25 RHAGFYR
CYMUN BORE NADOLIG AM 8.30AM
 

Wednesday, November 28, 2012

CWIS CYMORTH CRISTNOGOL



Nos Wener 15 Tachwedd cynhaliwyd y cwis blynyddol Cymorth Cristnogol Tref Rhydaman a'r cylch. Roedd pum tim yn cystadlu o Noddfa, Garnswllt, Capel Newydd y Betws a'c Ebeneser, y Gwynfryn, Yr Eglwys yng Nghymru a Gellimanwydd. Edwyn Williams oedd y cwisfeistr.

Wedi cystadlu brwd roedd dau dim yn gyfartal ar y diwedd, felly roedd rhaid wrth rowd "tie breaker". Ar ddiwedd hon daeth tim Gellimanwydd i'r brig. Llongyfarchiadau mawr iddynt.

Roedd stondinau cardiau Nadolig a nwyddau Masnach Deg yn cael eu gwerthu. Noson llawn hwyl a sbri yn cael cyfle i ddod at ein gilydd tuag at achos da

Monday, October 22, 2012

Diolchgarwch Gellimanwydd


Ar fore Dydd Sul 21 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Gellimanwydd.
Roedd y capel wedi ei addurno, yn ôl yr arfer, gan y chwiorydd a hyfryd oedd gweld y blodau a’r llysiau o amgylch yr adeilad.
 Eleni roedd yr oedolion a’r plant yn cymryd rhan gyda eu gilydd yn yr oedfa. Arbrawf hynod llwyddiannus. Canwyd Salm i ddechrau ac yna daeth y plant ymlaen  a’u bocsus esgidiau wedi eu llenwi gyda anrhegion ar gyfer “Operation Christmas Child”.
Hyfryd oedd gweld cymaint o blant bach yn cymryd rhan a phob un yn gwneud eu rhan mor broffesiynol.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn Neuadd Gellimanwydd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.

Sunday, September 23, 2012

Casglu handbags

Mae Gellimanwydd yn cefnogi ymgyrch Merched Y Wawr i gasglu handbags, gyda'r elw yn mynd tuag at Cymorth Cristnogol. Felly dewch a'ch bagiau at Elan a Mari.

Saturday, September 22, 2012

Taith gerdded Cymorth Cristnogol


Dydd Sadwrn, 22 Medi cynhaliwyd taith gerdded Cymroth Cristnogol Rhydaman. Roedd criw da wedi dod ynghyd o nifer o gapeli ac eglwysi’r dref.  Cawsom dywydd bendigedig a ‘r daith yn hynod bleserus gan ddilyn yr afon ar hyd y llwybr o Garnant i Rhydaman. Ar ol cyrraedd Rhydaman cawsom gwpanaid o de yn Neuadd Gellimanwydd. Mae’r arian yn dal i ddod i mewn ond llwyddwyd i gasglu swm anrhydeddus tuag at Ymgyrch  Cymorth Cristnogol y dref.
Yn wir mae'n bleser cyhoeddi bod Pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman yn cyfrannu dros £8,000 yn flynyddol tuag at yr elusen.