Friday, March 10, 2017

TUDALEN FACEBOOK

HI
Bellach mae gennym dudalen FACEBOOK sydd yn cael ei ddiweddaru yn gyson.

Felly er mwyn cael y newyddion diweddaraf am CAPEL GELLIMANWYDD ewch i 

https://www.facebook.com/Gellimanwydd/

Monday, January 23, 2017

Martin Luther

Bore Dydd Sul 22 Ionawr gwnaeth ein Gweinidog Y Parchg Ryan Thomas gyflwyno hanes Martin Luther i’r plant. Mae yna 500 mlynedd ers i Martin Luther hoelio ei 95 pwynt ar ddrws yr Eglwys Gatholig yn Wittenberg, Yr Almaen. Digwyddodd hyn ar 31 Hydref 1517.

Dyma’r digwyddiad sydd yn cael ei ystyried i fod y sbardun ar gyfer dechrau "Y Diwygiad" gan roi rhyddid i bawb addoli Duw fel mae’n dweud yn y Beibl, ac nid fel roedd yn cael ei bennu gan hierarchaeth eglwysig. Dyma drobwynt mawr yn hanes Ewrop ac i ddathlu wnaeth Y Parchg Ryan Thomas gyflwyno cymeriad "Playmobil" o Martin Luther i blant yr Ysgol Sul.

Yn ystod y flwyddyn bydd pob un o’r plant yn mynd a’r cymeriad adref yn eu tro i ddathlu achlysur mawr Martin Luther, un wnaeth newid hanes crefydd yn Ewrop.


Bydd hanes ein Martin Luther ni yn ymddangos ar dudalen Facebook Gellimanwydd – ewch i weld.
https://www.facebook.com/Gellimanwydd



Monday, December 19, 2016

Pasiant Y Plant







Prynhawn Dydd Sul 18 Rhagfyr cawsom oedfa arbennig yng Ngellimanwydd pan gyflwynodd plant yr Ysgol Sul eu pasiant Nadolig. 

Cawsom oedfa llawn hwyl a sbri a oedd yn trosglwyddo wir neges y Nadolig. Roedd hyd yn oed Tess a Claudia o Strictly Come Dancing, Ant a Dec o I'm a Celebrity a Honey G o X Factor yn cymryd rhan wrth gyflwyno  arwyr y sioe sef yr angylion, bugeiliaid, gwr y llety, y tri gwr doeth, ac wrth gwrs Mair a Joseff a'r baban Iesu.

Wedi'r oedfa cawsom de parti a hyfryd oedd gweld y Neuadd yn llawn o fwrlwm a hwyl yr Wyl. A do daeth Santa i'r parti a cyflwyno anrheg i blant yr Ysgol Sul.

Diolch i bawb wnaeth hi yn ddiwrnod i gofio.


Gwasanaeth Nadolig Moreia Tycroes

Bore Dydd Sul 18 Rhagfyr daeth aelodau a ffrindiau Gofalaeth Gellimanwydd, y Gwynfryn a Moreia at eu gilydd i ddathlu Oedfa Nadolig hyfryd yn Eglwys Moreia, Tycroes.



Wednesday, December 14, 2016