Wednesday, September 17, 2014

Trip Y Gymdeithas



 
Dydd Sadwrn 14 Medi aeth aelodau a ffrindiau Cydmeithas Gellimanwydd ar eu trip blynyddol. Senghennydd oedd y gyrchfan eleni i weld y Gofeb

Cawsom groeso twymgalon gan Mr Jack Humphreys, Cadeirydd Grwp Treftadaeth Cwm yr Aber, â’r tîm o wirfoddolwyr. I ddechrau aethom i’r Amgueddfa i gael disgled o de a chacen. Yna aeth hanner ohonom i’r amgueddfa i weld ffilm fer ac edrych ar yr arddangosfa tra aeth y gweddill i’r Ardd Goffa a’r Gofeb Cenedlaethol. Roedd yn brofiad sobreiddiol, yn enwedig wrth weld y cerflun efydd bendigedig o’r glowyr gan Les Johnson.  Yn yr ardd goffa mae enw pawb a gollodd eu bywydau yn y trychineb yn Hydref 1913, gydag enw, oed a chyfeiriad pob un o’r glowyr. Cafodd 439 o lowyr eu lladd yn y ffrwydrad yn Senghennydd, y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain.

Hefyd gwelsom y llwybr coffa yn yr ardd er cof am bob damwain lofaol yng Nghymru lle cafodd mwy na phump o bobl eu lladd. Mae’r llwybr yn nodi enw’r lofa, dyddiad y trychineb a’r nifer a gafodd eu lladd.

Wedi’r ymweliad â Senghennydd aethom am ychydig oriau i’r Bontfaen i gael rhywbeth bach i fwyta a siopa am ychydig cyn galw ym Mhencoed am bryd o fwyd ar y ffordd adref.

Yn wir roedd yn ddiwrnod bendigedig a cychwyn gwerth chweil i dymor newydd.
 
 

No comments: